Gallid bod wedi achub bywydau rhwng 20,000 a 30,000 o bobol petai’r cyfnod clo cyntaf wedi cael ei gyflwyno wythnos ynghynt, meddai un o brif gynghorwyr y Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth yr Athro Neil Ferguson ddweud fod gwyddonwyr wedi dechrau poeni fod diffyg cynllun clir, a bod yna sylweddoliad cynyddol ddechrau Mawrth 2020 y byddai’r wlad yn dioddef nifer uchel o farwolaethau .
“Pryder cynyddol”
Dywedodd Neil Ferguson, a oedd yn gyfrifol am greu modelu gwyddonol, wrth Radio 4 fod cyfarfod pwysig wedi ei gynnal gyda’r Gwasanaeth Iechyd, ac Ysgol Hylendid a Meddyginiaeth Drofannol Llundain ar Fawrth 1 2020.
Fe wnaeth y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) sylweddoli y byddai imiwnedd torfol yn arwain at nifer uchel iawn o farwolaethau’r wythnos ganlynol, meddai’r Athro.
Dywedodd nad oedd e’n “gyfarwydd” â meddylfryd swyddogion o fewn y Llywodraeth ar y pryd.
“Byddwn yn dweud, o’r ochr wyddonol, fod yna bryder cynyddol yn yr wythnos yn arwain at Fawrth 13 ynghylch diffyg cynllun clir ynglŷn â beth fyddai’n digwydd yn yr ychydig ddyddiau nesaf o ran cyflwyno ymbellhau cymdeithasol”.
Dywedodd fod yna nifer o ffactorau wedi dylanwadu ar benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i anghofio am imiwnedd torfol, gan ddweud fod y modelu’n rhannol gyfrifol.
Yn ogystal, fe wnaeth ystadegau ynghylch achosion o Covid-19 ddylanwadu ar y penderfyniad, gan eu bod nhw’n cydfynd â’r modelu, neu yn waeth na’r amcangyfrifon.
Byddai cyflwyno cyfnod clo wythnos ynghynt wedi achub “20,000 i 30,000 o fywydau”.
“Dw i’n meddwl fod hynny yn ddi-amheuaeth,” ychwanegodd.
“Roedd yr epidemig yn dyblu bob tri i bedwar diwrnod rhwng 13 a 23 Mawrth, ac felly, pe baem ni wedi symud yr ymyrraeth yn ôl wythnos, byddem ni wedi osgoi hynny ac achub nifer o fywydau.”
“Osgoi” cyngor gwyddonol
Yn y cyfamser, mae Susan Mitchie, aelod o bwyllgor SAGE, wedi dweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “osgoi” cyngor gwyddonol “pan nad oedd yn eu siwtio”.
“Mae yna nifer o enghreifftiau pan na chafodd y cyngor gwyddonol ei ddilyn, a dw i wedi gweithio gyda gwneuthurwyr polisïau a llywodraethau ers degawdau a ni fyddwn i erioed wedi disgwyl iddyn nhw beidio â dilyn y wyddoniaeth,” meddai Susan Mitchie wrth Sky News.
Cyfeiriodd at gyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddweud wrth bobol gadw meter i ffwrdd oddi wrth eraill yn Lloegr fel enghraifft o hynny, gan ddweud SAGE yn parhau i gynghori pobol i gadw dwy feter o bellter.
Dywedodd fod Boris Johnson wedi dweud fod Downing Street wedi sefydlu adolygiad gyda rhai gwyddonwyr ac economegwyr, ac ar sail hynny, fe wnaethon nhw newid y cyngor.
“Ond ni chawsom ni wybod pwy oedd y bobol yn yr adolygiad. Pa dystiolaeth edrychon nhw arno? Sut ddaethon nhw i’w canlyniadau? Ac felly, mae honno’n enghraifft pan wnaeth y Llywodraeth osgoi’r wyddoniaeth pan nad oedd yn siwtio nhw heb unrhyw dryloywder, a dw i’n meddwl fod hynny’n anffodus.”
Ymchwiliad cyhoeddus
Dywedodd Susan Mitchie ei bod hi’n cefnogi galwadau i gynnal ymchwiliad cyhoeddus ar unwaith, a dywedodd yr Athro Stephen Reicher, aelod o is-bwyllgor SAGE ei fod yn cytuno.
“Dylai ymchwiliad cyhoeddus fod wedi cael ei gynnal ddoe, nid Dominic Cummings yn rhoi ei ochr e o’r stori, a, petai’n ymchwiliad cyhoeddus, efallai y byddem ni’n achub bywydau ar gyfer y dyfodol,” meddai wrth BBC Breakfast.
Fel gwyddonydd ymddygiad, dywedodd Stephen Reicher fod Cummings yn “anghywir” i awgrymu fod gwyddonwyr wedi dweud na fyddai pobol yn ymdopi gyda chyfnod clo.
“Beth awgrymodd Dominis Cummings oedd fod gwyddonwyr ymddygiad yn dweud y byddai pobol ddim yn derbyn cyfyngiadau, ac unai na ddylen nhw gael eu gorfodi o gwbl, neu eu bod nhw’n cael eu gohirio fel arall. Nawrte, mae hynny yn gyfan gwbl anwir.”