Bydd Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, a’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ymweld â’r Gogledd heddiw (Mai 28) wrth i’r blaid geisio adeiladu ar eu llwyddiannau yn etholiadau’r Senedd ac etholiad Comisiynydd yr Heddlu.

Ddechrau’r mis, fe wnaeth y Blaid Lafur ddal ei gafael ar nifer o etholaethau yn y gogledd ddwyrain a gafodd eu hennill gan y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2019.

Cafodd ymgeisydd y Blaid Lafur ei ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu ar gyfer Gogledd Cymru hefyd, wrth i Andy Dunbobbin gamu i hen rôl Arfon Jones.

Bydd y ddau arweinydd yn ymweld â busnesau yn yr ardal er mwyn siarad am y camau mae Llywodraeth Cymru’n ei chymryd i ddiogelu swyddi, darparu rhaglen frechu gyflymaf y byd, a dechrau ar raglen adfer ym meysydd iechyd ac addysg.

“Cael y gorau i’r cymunedau”

“Mae pobol ar draws Cymru wedi rhoi eu ffydd yn Llafur Cymru a Mark Drakeford er mwyn arwain Cymru allan o’r pandemig,” meddai Keir Starmer cyn yr ymweliad.

“Yma yng Ngogledd Cymru, dw i wedi cyfarfod pobol a busnesau sy’n gwerthfawrogi’r hyn mae Llafur Cymru yn ei wneud yn y llywodraeth, ac a wnaeth bleidleisio er mwyn i’r gwaith hwnnw barhau.

“Mae Mark a fi’n benderfynol o gael y gorau i’r cymunedau hyn a sicrhau fod ganddyn nhw gynrychiolaeth o’r radd flaenaf, yn y Senedd ac yn San Steffan, er mwyn mynd â’r gwaith hwnnw yn ei flaen.

“Dw i’n edrych ymlaen at siarad gyda busnesau lleol, er mwyn clywed o lygad y ffynnon am y gefnogaeth mae Llafur Cymru wedi’i rhoi yn ystod y pandemig. Ac yn nes ymlaen, diolch i rai o’n haelodau am yr holl waith caled y gwnaethon nhw er mwyn helpu i gael y canlyniadau gwych yma i’r Blaid Lafur ac i Gymru.”

“Gweithredu ar addewidion”

“Dw i’n ddiolchgar i bobol ar draws Gogledd Cymru am eu cefnogaeth i gadw Cymru’n symud yn ei blaen,” ychwanegodd Mark Drakeford.

“Rydyn ni wedi gweithredu ar yr addewidion y gwnaethon ni yn yr etholiad yn barod.

“Rydyn ni wedi rhyddhau mwy o gymorth ariannol i fusnesau ar unwaith er mwyn parhau i helpu nhw drwy’r pandemig. Rydyn ni’n gosod cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer adfer ein Gwasanaeth Iechyd ac ein hysgolion. Ac rydyn ni’n parhau i gyflenwi’r rhaglen frechu gyflymaf yn y byd.

“Fel dywedais wrth lansio ein maniffesto, mae gennym ni gymaint i fod yn gadarnhaol yn ei gylch yng Nghymru.

“Byddwn ni’n cyflawni cymaint gyda’n gilydd, ac mae’r gwaith hwnnw’n dechrau yma yng Ngogledd Cymru.”