Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud mai dyma’r “tro olaf” y dylai’r cyfrifoldeb o benderfynu ar setliad ariannol S4C fod yn nwylo Llywodraeth San Steffan.

Daw hyn wrth i’r Llywodraeth yn San Steffan fod yn y broses o benderfynu ar gyllideb S4C ar gyfer y cyfnod 2022-27.

Mae’r mudiad iaith wedi ysgrifennu at Weinidog Cyfryngau a Data y Deyrnas Unedig, John Whittingdale AS, yn galw am drosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru er mwyn sicrhau setliad ariannol teg i’r sianel.

“Cyfiawnhau ei bodolaeth”

Yn y llythyr maen nhw’n dweud bod cyllideb S4C wedi ei chwtogi o 36% mewn termau real ers 2010, a bod gan y sianel 40% yn llai o staff.

“Nid oes modd dadlau nad yw S4C wedi cyfrannu’n fwy na’r un darlledwr cyhoeddus arall at arbedion y pwrs cyhoeddus,” meddai’r llythyr.

“S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd — mae gwerth y sianel felly’n llawer pwysicach na’r hyn y gall y farchnad ei wobrwyo.”

Ychwanega: “Mae’r sefyllfa bresennol, ble mae’n rhaid i S4C ymbil ar DCMS [yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon] am setliad ariannol teg bob pum mlynedd, ac egluro a chyfiawnhau ei bodolaeth wrth Lywodraeth sydd ddim i’w gweld yn deall cyd-destun ieithyddol a diwylliannol Cymru, yn gwbl annheg… Credwn y dylid trosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru er mwyn sicrhau setliad ariannol hirdymor teg i’r unig sianel deledu Gymraeg sy’n bodoli yn y byd.”

“Briwsion”

Dywedodd cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith, Elfed Wyn Jones: “Mae S4C yn haeddu llawer mwy na briwsion gan Lywodraeth San Steffan; mae’n haeddu cael setliad ariannol teg sy’n cydnabod ei chyfraniad ieithyddol a diwylliannol ac sy’n galluogi ei llwyddiant parhaus. Dyma’r tro olaf y dylai S4C orfod ymbil i DCMS am setliad ariannol teg pob 5 mlynedd.

“Yr unig ffordd y gallwn ni sicrhau setliad ariannol teg i S4C yn yr hirdymor yw drwy drosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru. Mae consensws trawsbleidiol yn bodoli yng Nghymru o blaid datganoli S4C a materion darlledu i Gymru, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Diwylliant Senedd Cymru ar y mater ym mis Mawrth. Nid yn unig hyn, ond mae 65% o bobl Cymru o blaid trosglwyddo grymoedd darlledu i Gymru. Fe ddylai Llywodraeth San Steffan barchu dymuniadau pobl Cymru a chaniatáu i ni benderfynu setliad ariannol S4C, yn ogystal â pholisi darlledu yn ei gyfanrwydd, ein hunain.”