Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fanylu ar y camau sydd wedi’u cymryd i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, ers i’r bwrdd iechyd gael ei dynnu allan o fesurau arbennig y llynedd.

Mae wyth mlynedd wedi mynd heibio ers i bryderon a godwyd gan staff yn Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, gael eu cofnodi gyntaf, ac wyth mlynedd ers comisiynu Robin Holden i gynnal ymchwiliad i’r uned iechyd meddwl.

Roedd canfyddiadau adroddiad  Robin Holden yn rhagflaenu adroddiad damniol am uned iechyd meddwl arall, Tawel Fan, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a arweiniodd at roi’r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015.

Ers hynny, mae Betsi Cadwaladr wedi’i dynnu allan o fesurau arbennig, ond nid yw Adroddiad Robin Holden wedi’i gyhoeddi eto.

Dywedodd Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor bod “angen i ni weld adroddiad Holden yn llawn, fel y gallwn farnu drosom ein hunain a yw’r materion a godwyd wedi cael eu trin yn llawn ai peidio.”

“Methiant llywodraethu”

Cadarnhaodd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth apêl y llynedd i’r adroddiad gael ei gyhoeddi’n llawn, ond mae’r Bwrdd Iechyd wedi apelio yn erbyn y penderfyniad hwn ac ni ddisgwylir gwrandawiad tribiwnlys tan yn ddiweddarach eleni.

Adeg penderfyniad swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, dywedodd Prif Weithredwr dros dro Betsi Cadwaladr, Simon Dean, fod yr argymhellion yn Adroddiad Robin Holden wedi cael eu gweithredu.

Fodd bynnag, ers hynny, mae wedi dod i’r amlwg bod adroddiad gan Bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad Betsi Cadwaladr yn cyfaddef “nad yw’n bosibl datgan yn hyderus” bod y camau a gymerwyd o ganlyniad i Adroddiad Robin Holden.

Mae’r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod “absenoldeb mecanwaith olrhain clir ar gyfer y camau gweithredu yn cynrychioli methiant llywodraethu.”

“Angen i ni weld adroddiad Holden yn llawn”

Dywedodd Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor:  “Mae’r methiannau hanesyddol yn y gwasanaeth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru wedi’u dogfennu’n dda ac mae’n un o’r rhesymau pam y cafodd y bwrdd iechyd ei roi mewn mesurau arbennig yn y lle cyntaf.

“Dioddefodd nifer o etholwyr o ganlyniad, ac mae mor bwysig bod gwersi wedi’u dysgu, o ystyried y gwaith arfaethedig o ailddatblygu’r Uned Ablett.

“Nid yw’r cyfaddefiad diweddaraf hwn o fethiant llywodraethu ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gwneud dim i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd.

“Roedd adroddiad Robin Holden yn adroddiad allweddol, a pe bai’r argymhellion wedi cael eu gweithredu pan gafodd ei gyhoeddi yna mae’n ddigon posibl bod y problemau a welsom yn Tawel Fan wedi’u datrys yn gynt.

“Rwy’n pryderu, er bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio ers Adroddiad Holden, nad yw pethau wedi’u datrys yn llawn.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru nawr roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd wedi’u cymryd i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru ers i’r bwrdd iechyd gael ei dynnu allan o fesur arbennig yn yr hydref y llynedd.

“Yn bwysicaf oll, mae angen i ni weld adroddiad Holden yn llawn, fel y gallwn farnu drosom ein hunain a yw’r materion a godwyd wedi cael eu trin yn llawn ai peidio.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.