Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithio gyda nhw, nid yn eu herbyn, er mwyn sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru.

Does dim sôn eto bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig am roi cynnig gerbron Llywodraeth Cymru i sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin heddiw (8 Gorffennaf), bydd Gweinidogion Cymru’n dweud eu bod nhw’n dal i fod yn agored i’r syniad o sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru.

Bydden nhw’n dweud wrth y pwyllgor yn San Steffan eu bod nhw’n barod i ddefnyddio pwerau cynllunio, cefnogi busnesau a threthu datganoledig i sicrhau fod unrhyw borthladd rhydd yn cyflawni blaenoriaethau Cymru – gan gynnwys eu hymrwymiadau i waith teg a diogelu’r amgylchedd.

Ym mis Chwefror, ysgrifennodd y Gweinidogion at Ganghellor y Trysorlys i drafod cynnig ar gyfer Porthladd Rhydd. Dros bum mis yn ddiweddarach, nid yw’r Canghellor wedi ateb.

Mae’r Gweinidogion wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru’r wythnos hon i nodi eu hamodau ar gyfer cydweithio eto.

Mae’r Gweinidogion wedi dweud yn glir na fyddai Llywodraeth Cymru’n barod i ystyried cynnig i sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru a fyddai’n cael llai na’r £25m o gymorth ariannol sydd ar gael i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr.

“Agored i’r syniad”

“Rydym yn dal i fod yn agored i’r syniad o sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru, ond er mwyn creu un yma, rhaid defnyddio pwerau datganoledig. Ond, fel y mae pethau, nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno i’n cais i wneud penderfyniadau ar y cyd, ac nid oes unrhyw gyllid priodol ychwanegol wedi’i gynnig inni,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

“Rydym wedi gofyn sawl gwaith i Weinidogion y Deyrnas Unedig am drafodaeth adeiladol. Mae’r diffyg eglurder ynghylch Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, polisi sy’n eiddo i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ansefydlogi penderfyniadau busnes mewn amgylchedd economaidd sydd eisoes yn eithriadol o ansicr, gan gael effaith uniongyrchol ar benderfyniadau buddsoddi.

“At hynny, gall eu penderfyniad i gyhoeddi Porthladdoedd Rhydd penodol ar gyfer Lloegr, heb benderfynu ar drefniadau ar gyfer Cymru, beryglu swyddi a chynlluniau buddsoddi yng Nghymru.

“Tan y cawn ymateb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a chynnig ffurfiol ganddi, mae’r bêl yn dal i fod yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae ein neges i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn glir – gallai awgrym Ysgrifennydd Gwladol Cymru y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig orfodi Porthladd Rhydd ar Gymru heb ein bendith arwain at ganlyniad gwaeth i bawb. Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithio gyda ni, nid yn ein herbyn.”

“Cwbl annerbyniol” derbyn ceiniog yn llai

“Byddai’n gwbl annerbyniol i unrhyw Borthladd Rhydd yng Nghymru dderbyn ceiniog yn llai na’r £25m y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i bob Porthladd Rhydd yn Lloegr,” meddai’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.

“Byddai’n golygu y byddai Porthladd Rhydd yng Nghymru o dan anfantais o’r funud gyntaf o’i gymharu â phorthladdoedd tebyg yn Lloegr, a byddai’n gorfodi Llywodraeth Cymru i gymryd miliynau o bunnau oddi wrth flaenoriaethau eraill i ariannu un o ymrwymiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio gweithredu’i pholisi ar Borthladdoedd Rhydd yng Nghymru heb ein cefnogaeth ni, byddai’n rhaid iddi wneud hynny heb y mecanweithiau datganoledig ac o’r cychwyn cyntaf, byddai hynny’n gwneud y cynnig yn llai deniadol a chystadleuol na’r rheini yn Lloegr.

“Byddai’n hynod siomedig pe bai Cymru’n cael cynnig gwaeth dim ond am fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amharod i weithio’n adeiladol gyda ni.”

“Ystyried pob opsiwn”

Daw hyn wedi i Rhun ap Iorwerth, sy’n cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd, ddweud bod “eisiau ystyried pob opsiwn ar gyfer cyfleon newydd i borthladd Caergybi”.

Wrth ofyn cwestiwn i Vaughan Gething ddoe (7 Gorffennaf), dywedodd ei fod “wedi edrych ers sawl blwyddyn ar y posibiliadau o ran creu porthladd rhydd yng Nghaergybi.

“Ond mae eisiau bod yn glir iawn am fanteision posib ac anfanteision posib, ac mae’n anodd pan mae pethau’n cael eu cymylu braidd gan rethreg wleidyddol.”

Beth yw Porthladdoedd Rhydd?

Dyw nwyddau tramor sy’n cyrraedd porthladdoedd a meysydd awyr sydd â statws ‘porthladd rhydd’ ddim yn cael eu heffeithio gan dariffau.

Dim ond os yw’r nwyddau’n gadael y porthladd rhydd ac yn cael eu symud i rywle arall yn y Deyrnas Unedig y mae’r dreth honno’n daladwy.

Fis Mai fe gyhoeddodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddiddordeb mewn creu porthladd rhydd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried creu deg porthladd rhydd ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Caergybi, Aberdaugleddau, Port Talbot, Abertawe, Casnewydd, Caerdydd, Maes Awyr Caerdydd a’r Barri ymhlith y porthladdoedd a fyddai, fwy na thebyg, yn rhoi cais am statws o’r fath yng Nghymru.