Bu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi ddoe (dydd Mercher 7 Gorffennaf) y gall oriau gyrru lorïau gael eu hymestyn yn sgil prinder staff.
“Rydyn ni’n gweithio gyda’r diwydiant ac wedi gweithredu ar brinder gyrwyr HGV, gan gynnwys cynyddu capasiti profion galwedigaethol, ac ariannu prentisiaethau,” meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar wneud y cyhoeddiad.
“Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi fod y rheolau ynghylch oriau gyrwyr yn cael eu llacio dros dro.
“Bydd hyn yn caniatáu i yrwyr HGV wneud teithiau ychydig hirach, ond dylid ond eu defnyddio pan fo hynny’n angenrheidiol a ni ddylai hynny amharu ar ddiogelwch gyrwyr, a bydd mesurau pellach yn cael eu cyhoeddi’n fuan.”
Er bod undebau a busnesau wedi bod yn rhybuddio am brinder gyrwyr loriau, sydd yn ei dro’n effeithio ar gyflenwad i archfarchnadoedd a sectorau eraill, mae un cwmni yng Nghrymych yn dweud nad ymestyn oriau yw’r ateb.
Yn ôl Rheolwr Gweithredol cwmni loriau Frenni, Mathew Francis, mae’r cyhoeddiad yn “kick in the teeth” i yrwyr loriau sydd wedi gweithio’n gyson drwy’r pandemig.
Mae Covid wedi’i gwneud hi’n anodd cael gweithwyr dros dro hefyd, ychwanegodd Mathew Francis, a Brexit wedi gwneud danfon llwythi i Ewrop yn “ben tost”.
“Gwneud y mwyaf”
“Mae hi wedi bod yn wyllt, mae hi wedi bod yn fishi ofnadwy,” eglurodd Mathew Francis wrth golwg360.
“Oherwydd bod neb yn gallu mynd i unman ddaethon ni i ben yn lled dda, achos roedd gyd o’r dreifars, diolch byth, moyn gweithio.
“Ond nawr maen nhw’n relacso’r rules ’chydig bach, mae’r bois moyn holides, nawr mae’n dechrau bwrw ni ’ma.
“Smo nhw wedi cael holides ers blwyddyn a hanner bron â bod, felly maen nhw’n haeddu nhw.
“Mae’r un mor fishi ag oedd hi pan ddechreuon ni, so mae e’n fwy caled wedyn achos smo ni’n gallu mynd mas a chael gyrwyr dros dro.
“So chi’n trio gwneud y mwyaf chi’n gallu efo beth sydd gyda chi.
“Mae e’n effeithio ni nawr mwy na wedd e yn ôl ar y dechrau.”
“Byw i weithio”
“Os fyswn i’n dweud e’n Saesneg fyswn i’n dweud bod e’n right kick in the teeth,” meddai Mathew Francis am gyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn oriau gyrwyr.
“Achos mae’r bois wedi gweithio trwyddo fe gyd, yn galed, wedyn i drïo helpu mas ‘allwch chi wneud awr extra bob dydd…’? ‘Wel diolch yn fawr iawn i chi!’
“’Gallwch chi gadw’r clap, a’r pay rise, allwch chi wneud awr fach extra i ni!’
“Maen nhw wedi blino, ry’n ni hyd yn oed fel cwmni [wedi blino]. Roedden ni’n rhedeg saith diwrnod yr wythnos 24 hours a day, rhywbeth yn rhywle, ry’n ni wedi troi rownd a dweud smo ni’n gweithio ar y penwythnos achos mae’r bois wedi blino.
“Mae’n rhaid i chi gael balans, os nad oes balans gyda chi ry’ch chi’n mynd i golli gyrwyr. Fel mae hi ar hyn o bryd, maen nhw’n byw i weithio, dy’n nhw ddim yn gweithio i fyw.
“I ddechrau efo’i dyw hi ddim yn jobyn sy’n cadw teulu’n dda iawn, achos bod chi bant shwd gymaint. Ond i droi rownd a dweud gallwch chi wneud awr fach extra, sai’n credu bod hwnna’n ateb i’r broblem.
“Os wedd chi’n mynd [dros eich oriau] cyn hynny, wedd y ffeins am wneud e yn rai cryf,” meddai gan gyfeirio at un o yrwyr a gafodd ddirwy o £360 am ddechrau gweithio saith munud yn rhy gynnar.
“’Na pam mae lot ohonyn nhw wedyn, pan maen nhw’n dod mas â’r newyddion eich bod chi’n gallu gwneud awr fach extra, mae lot o’r bois yn dweud ‘wel, na’.
“Yr unig adeg newn nhw niwsho fe yw os yw hi’n nos Wener ble gallen nhw fod adre fe iwshen nhw’r awr fach extra fel eu bod nhw’n gallu bod gytre… wel sai’n beio nhw wedyn. Os ydi hi rhwng cysgu yn y cab neu ddod gytre, chi’n mynd i iwsho fe i ddod gytre.”
“Pen tost”
Mae cwmni Frenni yn rhan o gwmni sy’n symud paletau dros nos, gan deithio i Ewrop, felly er nad ydyn nhw’n mynd i Ewrop eu hunain maen nhw’n gallu cael llwythi yno.
“Mae hala pethe mewn i Ewrop yn ben tost,” meddai Mathew Francis,
“Gyda’r bois â’r palets dros nos, gaethon ni amser digon caled fan’ny achos wedd dim byd mewn lle’n barod i fynd.
“Hyd yn oed nawr mae e’n rial gwaith caled, achos i fod yn hollol onest sai’n meddwl fod neb yn gwybod yn gywir be sy’n mla’n ’da nhw.
“Mae’r rheolau’n newid ‘byti bod bron bob wythnos, ‘da be sydd ’da chi hawl i wneud a beth sydd ‘da chi ddim hawl i’w wneud.
“Ond fel ’ny mae, s’dim iws crintachu achos smo nhw’n mynd i sortio fe mas.
“Rhaid i chi just mynd amdani a thrïo eich gorau, nawr mae gwaith yn cael ei losgi achos ni’n cael ein dala’n rhywle lle ry’n ni wedi anghofio gwneud rhywbeth neu mae ryw document wedi altro.
“Ry’ch chi’n trio dysgu gan rhein, a mynd ‘to.”
“Bydde fe’n rhwyddach i fi se’n i’n troi rownd a dweud smo ni’n gwneud e,” ychwanegodd.
“Ond wedyn os oes cwsmeriaid sydd ’da chi sydd isie hynna, chi ffili troi rownd a dweud ‘Smo ni’n gwneud hynna rhagor’ achos maen nhw’n mynd i fynd i rywle arall, a chi’n colli mwy na jyst y gwaith sy’n mynd i Ewrop.
“Yn yr un modd, os dy’ch chi ddim yn gwneud e’n dda iawn, mae posibilrwydd bod chi’n mynd i golli fe anyway achos bod chi ddim yn gwneud e’n dda iawn.
“So mae e’n fan caled i fod yn, s’dim ots beth wnewn ni. Os nad yw e’n reit, wel mae rhywun rhywle’n mynd i weld yr effaith.
“Mae lot o broblemau o’n blaen ni fi’n ofni!”