Mae dysgwr sy’n byw ger y ffin â Lloegr wedi cael ymateb “hynod” o bositif i’w gynnig i sefydlu clwb siarad Cymraeg yn ei bentref.
O fewn pum diwrnod o gynnig sefydlu’r clwb ar wefan gymunedol pentref Grysmwnt, roedd naw o’r trigolion eisiau ymuno, eglura Jonny Small, sy’n wreiddiol o ochrau Llundain.
“Dw i’n byw ger Y Fenni mewn pentref bach o’r enw Grosmont sydd ger Henffordd hefyd, yn agos iawn iawn i’r ffin – dim ond pum munud os dw i’n cerdded,” eglura.
Pentref tawel sy’n gartref i 900 o bobol yw Grysmwnt, ac fe symudodd Jonny Small yno o Gasnewydd gyda’i bartner Nick er mwyn bod yn nes at ei waith yn athro mewn ysgol gynradd.
Ym mis Medi 2020 fe gychwynnodd Jonny ar flwyddyn i ffwrdd o’r gweithle ym Mhrifysgol Caerdydd – ar gyfer athrawon sydd eisiau dod yn rhugl eu Cymraeg.
“Llywodraeth Cymru sy’n talu am y cwrs a dim ond 25 o ddysgwyr sydd ar y cwrs,” eglura.
“Dw i’n dysgu am ddim a dw i eisiau rhannu fy sgiliau iaith newydd i helpu pobol yn y pentref i siarad Cymraeg hefyd. Achos pan rydyn ni’n byw ar y ffin maen hawdd colli’r iaith, dw i’n meddwl.”
Ei fwriad yw cychwyn clwb siarad Cymraeg yn yr hydref ar ôl cwblhau ei gyfnod gyda’r brifysgol, a hynny er mwyn cael digon o amser i baratoi amser ac adnoddau dysgu.
“Dw i eisiau dechrau yn fach ond efallai yn y dyfodol y bydd y clwb yn tyfu, a pan ddaw pobol yn fwy hyderus maen nhw’n gallu helpu fi i dyfu’r clwb hefyd. Dw i eisio mynd i’r dafarn a siarad gyda phobol y pentref yn Gymraeg achos mae o’n hyfryd a faswn i’n mwynhau hynny.”
Athrawon yn troi’n ddysgwyr
Yn ôl Jonny Small, sy’n un o 25 o athrawon o Gymru sy’n treulio blwyddyn yn dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, y gobaith yw y bydden nhw yn dychwelyd i’r ysgol ac yn annog eraill i siarad mwy o Gymraeg.
“Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu helpu athrawon i ddysgu Cymraeg ac felly maen nhw’n gallu mynd yn ôl i’r ysgol i helpu plant i ddysgu Cymraeg, a helpu’r athrawon eraill i deimlo’n fwy hyderus gyda’r Gymraeg. Dw i’n dysgu mewn ysgol [cyfrwng] Saesneg a dydi’r athrawon ddim yn teimlo’n ddigon hyderus yn eu Cymraeg.”
Yn ôl Jonny, mae’r cyfnod sabothol sydd ar waith ers pedair blynedd, yn gyfle “ffantastig!”
“Mae pawb sydd ar y cwrs wedi mwynhau yn fawr iawn. Mae o’n syniad gwych hefyd i ddefnyddio arian cyhoeddus i hyfforddi athrawon i ddefnyddio’r iaith yn fwy hyderus.”
Symud i Gymru
Yn 2014 fe ddaeth Jonny Small i fyw i Gymru er mwyn ailhyfforddi i fod yn athro ysgol.
“Ges i fy ngeni yn Lloegr ond cafodd fy Mam-gu ei geni yn Aberpennar [yn Rhondda Cynon Taf] ac mae hi’n 95 oed nawr – dw i’n chwarter Cymro. Dw i’n byw efo fy mhartner ac mae o’n dod o Gymru hefyd ond dydi o ddim yn siarad Cymraeg.”
Yn yr wythnos gyntaf pan symudodd y ddau ohonyn nhw i Gymru roedd Jonny yn cael trafferth ynganu’r geiriau ar arwyddion ffordd, eglura gan chwerthin.
“Roedd fy mhartner yn chwerthin ar fy mhen felly penderfynais i ddysgu’r iaith. Dw i’n teimlo’n hapus yng Nghymru a dw i’n teimlo fy mod yn perthyn – I belong yng Nghymru!” meddai gydag angerdd.
“Dw i eisiau siarad yr iaith a dw i eisio cadw iaith fy Mam-gu. Dydi hi ddim yn siarad Cymraeg nawr – mae hi’n siarad tipyn bach o Gymraeg, mae hi’n cofio tipyn bach o’r ysgol amser maith yn ôl. Ond dw i’n ysgrifennu cardiau pen-blwydd Cymraeg iddi hi.”
Ond nid talentau ieithyddol yn unig sydd gan Jonny – mae ganddo lais canu bariton a daeth yn ail ym mhencampwriaeth canu unigol yn eisteddfod flynyddol Y Fenni 2019.
“Roedd o’n hyfryd a mwynheais i’r profiad yn fawr iawn. Canais i yn Gymraeg am y tro cyntaf o flaen cynulleidfa ac roedd fy mhartner Nick – sy’n dod o’r Cymoedd, ger Aberdâr – yn aros drwy’r dydd i weld fi’n canu ‘Ar Hyd y Nos’.”
Os hoffech ddarllen rhagor am brofiadau Jonny yn dod yn rhugl mae ganddo flog o’r enw Fy Siwrne Cymraeg.