Mae’r elusen InterAct yn gweithio mewn ysbytai yng Nghymru, yn ogystal â’r Alban a Lloegr, ac yn awyddus i ddenu rhagor o siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cynnig eu darpariaeth drwy gyfrwng yr iaith i ddioddefwyr strôc.

Yr artist o Dalgarreg, Gwenllian Llwyd, yw un o dri staff yr elusen fach. Symudodd i Lundain i fyw ar ôl gorffen ei gradd Meistr mewn Celf Gain yng Nghaerdydd yn 2019.