Mae ‘Ding-dongs Datganoli’ yn achlysuron wythnosol erbyn hyn.
Yr wythnos ddiwetha’, roedd Mark Drakeford yn ei dweud-hi wrth Boris Johnson am amharchu Senedd Cymru.
Wrth amlinellu ei weledigaeth ar gyfer setliad datganoli newydd, fwy cydradd, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhy aml “yn gweithredu mewn ffordd unochrog, ymosodol” wrth ddelio gyda Llywodraeth Cymru.
Dyna’r ‘ding’, a daeth y ‘dong’ yn rhadlon gan Andrew RT Davies.