Mae Jacob Zuma, cyn-Arlywydd De Affrica, yn y carchar ar ôl mynd at yr heddlu funudau’n unig cyn y terfyn amser iddo ildio’i hun i’r awdurdodau.
Mae e wedi’i ddedfrydu i 15 mis dan glo am ddirmyg llys ar ôl anwybyddu gorchymyn i roi tystiolaeth i gomisiwn barnwrol a gafodd ei sefydlu i ymchwilio i honiadau o lygredd yn ystod ei gyfnod wrth y llyw rhwng 2009 a 2018.
Mae’r comisiwn wedi clywed gan gyn-weinidogion a chorfforaethau’r wladwriaeth fod Zuma wedi rhoi’r hawl i aelodau o deulu cyfoethog ddylanwadu ar ei benodiadau i’r Cabinet ac wrth ddyfarnu cytundebau mawr.
Yn ôl ei blaid, yr ANC, maen nhw’n “parchu” ei benderfyniad i gydymffurfio â’r gyfraith, ac maen nhw’n dweud ei fod e wedi gwneud “penderfyniad gwirioneddol ddewr ac anodd” i fynd at yr heddlu i’w garcharu.
Mae grwpiau dyngarol wedi croesawu’r ddedfryd.