Bydd disgyblion o Ysgol Henry Richard, Tregaron, yn gorfod hunanynysu o heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 8).

Cafodd un disgybl ganlyniad brawf llif unffordd positif neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 7).

Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i ddisgyblion blwyddyn 8 aros gartref am ddeng niwrnod, yn unol â chanllawiau hunanynysu Llywodraeth Cymru.

Mae gofyn hefyd i bob disgybl sy’n teithio ar fws ysgol Pontrhydfendigaid (YT06) hunanynysu.

Roedd yn rhaid i ddisgyblion blwyddyn 9 hunanynysu yn wreiddiol, ond does dim rhaid iddyn nhw bellach yn dilyn diweddariad brynhawn dydd Iau (Gorffennaf 8).

Fydd dim rhaid i aelodau o’r un aelwyd ddilyn yr un canllawiau â’r disgyblion oni bai bod ganddyn nhw symptomau Covid-19.