Mae beiciwr modur mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Nant Gwynant, Beddgelert brynhawn ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 7).

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw yno ychydig cyn 1:20yp ddoe, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn cynnwys beic modur ar yr A498 rhwng Pen y Gwryd a Beddgelert.

Cafodd y beiciwr modur, sydd yn ei 30au, ei gludo i Ysbyty Gwynedd cyn cael ei gludo mewn Ambiwlans Awyr i’r ysbyty yn Stoke.

Mae ei anafiadau’n cael eu disgrifio fel rhai a allai beryglu ei fywyd, ac mae Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am dystion ar hyn o bryd.

“Roedd y beiciwr yn teithio i gyfeiriad Beddgelert, a dw i’n annog unrhyw un a allai fod yn teithio ar hyd yr A498 tua 1yp, neu unrhyw un a allai fod â lluniau dashcam, i gysylltu â ni,” meddai’r Cwnstabl Daniel Edwards.

“Rydyn ni’n gwybod hefyd fod ambell berson wedi stopio yn safle’r digwyddiad, ond eu bod nhw wedi gadael cyn i ni adael, felly dw i’n eu hannog nhw i gysylltu os gwelwch yn dda.”