Mae disgwyl i gannoedd o ymgyrchwyr brotestio ar argae Tryweryn fory (10 Gorffennaf), gan ffurfio rhes ar hyd yr argae fel symbol o’u hymrwymiad i sefyll yn erbyn ‘chwalfa cymunedau’ gan y farchnad dai.

Bydd yr ymgyrchwyr yn protestio yn erbyn grymoedd y farchnad, a pholisïau Llywodraeth Cymru sy’n bygwth chwalu cymunedau a’r Gymraeg.

Cyn y bydd yr ymgyrchwyr yn sefyll mewn rhes ar hyd yr argae am 1 brynhawn fory, bydd sylfaenydd Llety Arall, Menna Machreth, Dafydd Iwan, Mabon ap Gwynfor AS, a chyn-ymgeisydd Llafur Dwyfor Meirionnydd, Cian Ireland, yn annerch y dorf.

Bydd degau o ffigyrau amlwg o feysydd diwylliant, gwleidyddiaeth a busnes yn llofnodi galwad ar Lywodraeth Cymru i “weithredu ar frys ac mewn modd radical i sicrhau fod cymunedau lleol yn gallu rheoli’r farchnad dai a’r broses gynllunio i sicrhau cartrefi i’w pobol”.

Daw’r rali yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru eu bod nhw am ymgynghori a datblygu cynllun peilot i fynd i’r afael ag effeithiau prisiau tai uchel ar gymunedau a’r iaith.

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, sy’n trefnu’r rali, mae’r cynlluniau’r “annelweig a di-uchelgais”, a dyma’r “enghraifft ddiweddaraf o’r Llywodraeth yn llaesu dwylo tra bod argyfwng yn y farchnad dai ar hyd a lled Cymru”.

Mae rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith Ceredigion eisoes wedi dechrau ar daith gerdded dros 30 milltir er mwyn cyrraedd Tryweryn, gan ddilyn llwybr Mari Jones o Lanfihangel y Pennant i’r Bala.

“Angen gweithredu”

Mae’r farchnad dai yn achosi gwahanol broblemau mewn gwahanol ardaloedd, ond yr un yw’r canlyniad: bod pobol ifanc yn methu fforddio cartrefi yn eu cymunedau eu hunain,” meddai Mabli Siriol Jones, Cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith, cyn y rali.

“Bydd y bobol sy’n bresennol yn Rali Tryweryn yn galw ar y llywodraeth i weithredu go iawn dros gyfiawnder cymdeithasol a pharhad y Gymraeg fel iaith gymunedol.

“Does dim angen rhagor o gynlluniau peilot, ymgynghoriadau a datganiadau di-sylwedd gan y Llywodraeth. Mae angen gweithredu.

“Fel mesurau brys, rydyn ni’n galw am gyflwyno trethi ar dwristiaeth, ar elw landlordiaid, ac ar ail dai, a buddsoddi’r arian mewn cymunedau lleol a dod â thai gweigion ac ail dai yn ôl i ddefnydd pobol leol.

“Rydyn ni hefyd yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai a’r broses gynllunio, newid y diffiniad o dai fforddiadwy, rheoli prisiau tai a rhent a gosod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned.

“Mae’r atebion gyda ni, yr hyn sydd ei angen yw ewyllys wleidyddol. Dyma gyfle i’r Llywodraeth wrando a gweithredu er budd pobl gyffredin i sicrhau cartref i bawb, a chymunedau cryf, Cymraeg ymhob rhan o’r wlad.”