Bydd cynlluniau i leihau’r terfyn cyflymder safonol cenedlaethol o 30mya i 20mya ar ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac ar strydoedd prysur i gerddwyr yn rhan o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r newid.

Fe fydd y newid yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i achub bywydau, diogelu cymunedau, a gwell ansawdd bywyd pawb, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae cam cyntaf y newid yn cael ei gyflwyno mewn wyth cymuned yng Nghymru er mwyn casglu data a datblygu arferion gorau cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno’n llawn yn 2023.

Fel rhan o’r gwaith hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad deuddeg wythnos, a fydd yn dod i ben ar 12 Medi, i bobol gael rhoi eu barn cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym.

“O gryn fudd i bobol”

Mae gwneud 20mya yn derfyn cyflymder safonol ar strydoedd prysur i gerddwyr ac mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru yn gam beiddgar a fydd o gryn fudd i bobol,” meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wrth wneud y cyhoeddiad.

“Nid yn unig y bydd yn achub bywydau, ond bydd hefyd yn helpu i wneud ein strydoedd yn fannau mwy diogel a chroesawgar i feicwyr a cherddwyr.

“Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles corfforol a meddyliol, a bydd llai o gerbydau ar y ffordd yn helpu i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

“Rydyn ni’n gwybod na fydd y newid hwn yn hawdd – mae’n ymwneud cymaint â newid calonnau a meddyliau ag y mae’n ymwneud â chamau gorfodi caled – ond dros amser, bydd 20mya yn dod yn norm yn union fel y cynlluniau rydyn ni wedi’u cyflwyno o’r blaen, megis newid bagiau siopa, gwahardd ysmygu y tu mewn i fusnesau, a rhoi organau.”

Hyrwyddo trafnidiaeth wyrddach

Mae pentref Saint-y-brid ym Mro Morgannwg ymysg yr ardaloedd sy’n cymryd rhan yn y cam cyntaf, ac mae athrawon a disgyblion yr ysgol gynradd yn croesawu’r datblygiad ac wedi chwarae rhan weithredol yn y broses.

“Mae’r ysgol a’r gymuned leol yn falch iawn o gael chwarae rhan mor amlwg yn y fenter gyffrous hon,” meddai Duncan Mottram, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Saint-y-brid.

“Bydd lleihau’r terfyn cyflymder ar ein ffyrdd yn eu gwneud yn fwy diogel ac yn helpu hefyd i hyrwyddo mathau amgen, mwy gwyrdd o drafnidiaeth fel cerdded a beicio.

“Mae disgyblion wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn o’r dechrau un, gan gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio arwyddion ffyrdd sydd i’w gweld o amgylch y pentref, tra bo grŵp o drigolion lleol hefyd wedi mynegi eu cefnogaeth o’r cychwyn cyntaf.

“Rydym yn falch o fod yn un o’r cynlluniau peilot ar gyfer y terfyn cyflymder is newydd hwn ac yn edrych ymlaen at ei weld yn cael ei gyflwyno ledled y wlad.”

Mae’r ardaloedd eraill sy’n rhan o’r cynllun yn cynnwys:

  • Llandudoch, Sir Benfro
  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
  • Gogledd Orllewin Caerdydd
  • Pentref Cil-ffriw, Castell Nedd Port Talbot
  • Y Fenni a Severnside, Mynwy
  • Bwcle, Sir y Fflint