Mae holl gynghorau sir Cymru yn cael eu hannog i ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd, sydd wedi pleidleisio i gefnogi Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear.

“Beth am roi cychwyn ar adfer y syniad o Gymru Ddi-Niwclear, fel yr oedd gennym yn yr wythdegau? Dyna fyddai cyfraniad go iawn i genedlaethau’r dyfodol!” meddai’r Cynghorydd Gruff Williams o Nefyn.

Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymrwymo i’r Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear, a ddaeth i rym ym mis Ionawr eleni.

Erbyn hyn, mae’r Deyrnas Unedig yn un o’r ychydig wledydd sydd heb arwyddo’r cytundeb, ac maen nhw wedi dweud na fydden nhw byth yn ei gefnogi.

Nid oedd y Deyrnas Unedig yn rhan o’r trafodaethau a arweiniodd at y Cytundeb, ac maen nhw’n bwriadu adnewyddu arfau niwclear Trident ar gost o £205 biliwn.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw am gynyddu nifer yr arfau niwclear ym Mhrydain gan 40%, o 195 i 260.

Mae mudiadau CND Cymru, Cymdeithas y Cymod, a Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn yn croesawu penderfyniad Cyngor Gwynedd i wrthwynebu arfau niwclear, ac yn dweud y byddai’n “wych o beth” gweld Cynghorau eraill a Llywodraeth Cymru’n dilyn.

Cafodd y cynnig ei lunio gan y Cynghorydd Gruff Williams, gyda 53 Cynghorydd yn pleidleisio o’i blaid, a dim un yn gwrthwynebu.

“Dangos i ni’r ffordd”

“Rwy’n llongyfarch Cyngor Gwynedd ar arwain y ffordd. Digwyddodd y cytundeb hwn gan y Cenhedloedd Unedig trwy bŵer pobl. Gobeithio y bydd pobl Cymru yn sicrhau bod eu cynghorau yn dilyn esiampl Gwynedd,” meddai Jill Evans, Llywydd CND Cymru.

“Mae’r Cytundeb hwn yn dangos i ni’r ffordd i fyd sy’n rhydd o arfau niwclear.

“Dyna sut y gallwn fuddsoddi adnoddau yn yr hyn sy’n wirioneddol amddiffyn diogelwch ac iechyd pob un ohonom. Wrth inni agosáu at ddeugain mlwyddiant y datganiad Cymru Ddi-Niwclear gan ein cynghorau sir, mae hwn yn gam cyffrous iawn ymlaen.”

“Adfer Cymru Ddi-Niwclear”

“Mae Cyngor Gwynedd wedi dangos arweiniad dyngarol drwy gefnogi’r Cytundeb hwn, er mwyn i Lywodraeth San Steffan a gwleidyddion o bleidiau eraill ddeall fod yna wrthwynebiad egwyddorol a moesol i arfau niwclear yng Nghymru,” meddai’r Cynghorydd Gruff Williams, sy’n cynrychioli Nefyn ar Gyngor Gwynedd.

“Beth am roi cychwyn ar adfer y syniad o Gymru Ddi-Niwclear, fel yr oedd gennym yn yr wythdegau? Dyna fyddai cyfraniad go iawn i genedlaethau’r dyfodol!”