Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth neu luniau dashcam yn dilyn damwain ddifrifol ar yr A40 ger Llandeilo, tua 12:20 brynhawn ddydd Iau, 8 Gorffennaf.

Bu farw dau ddyn, 62 a 40 oed, yn y ddamwain, tra bod merch ifanc wedi cael ei chludo i’r ysbyty mewn hofrennydd – ond doedd hi ddim wedi dioddef anaf difrifol.

Mae’r teuluoedd bellach yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Roedd dau gerbyd – lori ‘Daf flatbed’ wyrdd a fan Transit Ford Tipper gwyn – yn y ddamwain.

Cafodd y lôn ei chau am nifer o oriau, gan ailagor tua 10 o’r gloch neithiwr (8 Gorffennaf).

Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam i gysylltu naill ai ar-lein ar https://bit.ly/DPPContactOnline, drwy e-bostio 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu ffonio 101.