Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yng Nghymru yn dweud bod angen i bobol barhau i wisgo mygydau mewn sefyllfaoedd meddygol.
Daw hyn wrth i Lywodraeth Boris Johnson baratoi i lacio cyfyngiadau’r coronafeirws yn Lloegr, gan gynnwys y rheolau ar wisgo mygydau.
Bydd y rheolau hyn yn cael eu llacio ar 19 Gorffennaf, neu “diwrnod rhyddid” fel y mae Boris Johnson yn cyfeirio ato.
Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r camau nesaf o ran llacio cyfyngiadau’r coronafeirws yr wythnos nesaf.
Does dim disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi llacio’r cyfyngiadau cymaint â Lloegr.
“Rydyn ni yn sicr eisiau gweld mygydau yn cael eu gwisgo o fewn ysbytai,” meddai Dr Dai Samuels, meddyg ac aelod o Gymdeithas Feddygol Prydain wrth raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru.
“Ac nid jest mewn ysbytai, mewn ardaloedd lle nad oes awyriad da fel siopau, a falle llefydd cymunedol fel ysgolion ac ati.
“Rydan ni wedi gweld yr effaith positif mae mygydau yn eu cael dros y misoedd diwethaf wrth arafu lledaeniad y feirws a gobeithio y byddwn ni’n gweld hynny yn parhau.”
Rhagweld “problemau”
Mae Dr Dai Samuels yn rhagweld “problemau” yn codi yn sgil cyflwyno rheolau gwahanol yn Lloegr o’i gymharu â Chymru.
“Dw i’n gweld problemau yn codi, a bydd pobol yn dweud ‘wel, galla i wneud e yn Lloegr, pam na allai wneud e yng Nghymru?’
“Ac efallai y bydd rhai aelodau o’r cyhoedd yn dweud mai Boris Johnson sydd â’r ateb ac mai ef sydd yn iawn wrth gael gwared ar bron pob rheol.
“Ond y peth i ddweud ydi nad dyna’r ateb cywir, dw i’n credu bod Mark Drakeford drwy gydol y pandemig wedi bod yn eithaf pwyllog.
“Ac rydan ni fel y BMA (Cymdeithas Feddygol Prydain) yn dweud y dylai hynny barhau a chymryd un cam ar y tro.”