Mae cwmnïau teithio’n dweud eu bod nhw wedi gweld twf aruthrol yn y galw am wyliau i wledydd ar y rhestr yn dilyn y cyhoeddiad na fydd teithwyr sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn gorfod bod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps wrth Aelodau Seneddol ddydd Iau (8 Gorffennaf) na fyddai teithwyr o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn yn gorfod hunan-ynysu am 10 diwrnod pan fyddan nhw’n dychwelyd i Loegr o wledydd ar y rhestr oren.
Yn ôl cwmni teithio Skyscanner roedden nhw wedi gweld cynnydd o 53% mewn ymholiadau o’r DU 30 munud wedi’r cyhoeddiad, o’i gymharu â’r un cyfnod ddydd Mercher.
Dywedodd Thomas Cook bod yr ymholiadau ar y we wedi dyblu funudau ar ôl y cyhoeddiad, ac wedi parhau i gynyddu ers hynny.
Yn ôl llefarydd ar ran y cwmni roedd y chwilio am wyliau yng Ngwlad Groeg wedi treblu ers y cyhoeddiad.
Fe fydd plant o dan 18 oed hefyd ddim yn gorfod bod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd ac fe fydd y cyngor i beidio teithio i wledydd ar y rhestr oren yn cael ei godi ar 19 Gorffennaf pan fydd y rhan fwya’ o’r cyfyngiadau yn cael eu llacio yn Lloegr.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheolau’n ymwneud a chwarantin hyd yn hyn, ac yn ei gyhoeddiad dywedodd Grant Shapps y gallai’r rheolau fod yn “wahanol” yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.