Roedd economi’r Deyrnas Unedig wedi tyfu eto ym mis Mai ar ôl i’r cyfyngiadau clo gael eu llacio ymhellach ond roedd y twf wedi arafu, yn ôl ffigurau newydd.
Roedd Cynnyrch Domestig Gros (GDP), sy’n mesur twf economaidd, wedi tyfu 0.8% ym mis Mai, ond wedi arafu ers y twf o 2.3% ym mis Ebrill, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Y darogan oedd y byddai’r economi yn tyfu 1.5% ym mis Mai.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol nid yw GDP wedi adfer i’w lefelau cyn y pandemig, gan fod 3.1% yn llai nag ym mis Chwefror 2020.
Tafarndai a bwytai oedd yn bennaf gyfrifol am y twf ym mis Mai, ar ôl i gwmnïau lletygarwch, hamdden a chelfyddydau gael ail-agor wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ar 17 Mai.
Fe fu hwb hefyd i’r sector llety a bwyd wrth i gwsmeriaid ddychwelyd i fwytai a bwcio gwyliau gartref unwaith eto.