Mae dros 5,000 o gefnogwyr annibyniaeth wedi bod yn gorymdeithio ym Merthyr y pnawn yma.
Maen nhw wedi bod yn gwrando ar ffigurau amlwg o fyd gwleidyddiaeth, chwaraeon a llenyddiaeth yn dadlau’r achos dros Gymru rydd.
Ymysg prif negeseuon y rali roedd
- Yr angen i feithrin yr hyder y gall Cymru fod yn annibynnol
- Fod Brexit a’i effaith ar wleidyddiaeth San Steffan yn ychwanegu at y galw am annibyniaeth i Gymru
- Fod Cymru’n wlad agored sy’n barod i estyn croeso i bawb.
“Ddaw dim lles i Gymru o San Steffan, yn awr nac yn y dyfodol,” meddai’r cyn-chwaraewr rygbi Eddie Butler, a dderbyniodd groeso byddarol gan y dorf.
“Mae pob gwlad sydd wedi ennill ei rhyddid wedi gorfod cychwyn o ddim wrth adeiladu ei dyfodol.”
Gan alw Boris Johnson yn ‘homphobic, racist, sexist idiot’, galwodd y cyn-gôl geidwad Neville Southall ar i bawb fynnu sicrhau bod y Ddraig Goch yn rhuo’n uwch.
“Yes Wales can,” medd neges Iain Black o’r Alban, ymgyrchydd blaenllaw dros annibyniaeth yno, gan bwysleisio’r angen i ennyn yr hyder mewn pobl dros annibyniaeth.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Delyth Jewell ei bod hi bob amser wedi credu y byddai Cymru’n annibynnol rhyw ddydd.
“Mae sŵn cynyddol dros y blynyddoedd, misoedd a’r blynyddoedd diwethaf wedi arwain at benllanw o sylweddoliad fod yn rhaid i hyn ddigwydd nawr,” meddai.
“Dyma’r ffordd i ddad-wneud y dinistr economaidd a chymdeithasol mae Cymru wedi’i ddioddef.”
Ymysg y siaradwyr eraill roedd y beirdd Patrick Jones, Mike Jenkins a Catrin Dafydd, gyda’r olaf yn dadlau’r angen i sicrhau lle canolog i’r Gymraeg mewn Cymru annibynnol.
“Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb, gyda chyfle i bawb ei siarad ac i ddysgu am hanes Cymru.”