Mae miloedd o bobl yn gorymdeithio ym Merthyr Tudful i ddangos eu cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru.
Ymhlith y siaradwyr mae’r cyn-bêl-droediwr Neville Southall, y cyn-chwaraewr rygbi Eddie Butler ac Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros y rhanbarth, Delyth Jewell.
Mae’r heddlu’n amcangyfrif bod tua 5,000 yn gorymdeithio.
“Ar ôl llwyddiant ysgubol ralïau Caernarfon a Chaerdydd, mae’r miloedd sydd yma heddiw yn dangos momentwm yn y gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru,” meddai Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian, wrth siarad gyda Golwg360 o’r orymdaith.
“Beth sy’n hynod o galonogol i mi ydi agwedd gyfeillgar pobl leol wrth stopio i siarad efo nhw. Mae pobl nad ydyn nhw’n rhan o’r orymdaith yn dangos diddordeb, ac mae hynny’n arwyddocaol dw i’n meddwl.
“Wrth deithio yma o Gaerdydd, roedd y baneri ar y pontydd yn drawiadol iawn, yn enwedig dwy a oedd yn dweud ‘Cofiwch Dryweryn’ a ‘Cofiwch Aberfan’.
“Mae cofio’r gorffennol yn helpu ysbrydoli’r gobaith am y dyfodol sydd i’w deimlo yma heddiw.”