Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddatrys yr argyfwng tai, meddai’r digrifwr a’r cerddor adnabyddus Dewi Pws, a fydd yn canu yn y rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn Nhryweryn ar ddydd Sadwrn, 10 Gorffennaf.
Gyda phethau’n “mynd o ddrwg i waeth”, meddai, mae’n rhaid cael deddfwriaeth sy’n mynd ymhellach, ac yn gosod uchafswm ar nifer yr ail gartrefi.
Mae disgwyl y bydd cannoedd o ymgyrchwyr yn dod ynghyd i ffurfio argae ddynol er mwyn protestio yn erbyn grymoedd y farchnad, a pholisïau Llywodraeth Cymru sy’n bygwth chwalu cymunedau a’r Gymraeg.
Bydd Dafydd Iwan, Mabon ap Gwynfor, Menna Machreth, a Cian Ireland, cyn-ymgeisydd Llafur Dwyfor Meirionnydd, yn annerch y dorf, a bydd Dewi Pws, Eryrod Meirion, Twmffat, Band Samba Rhythmau Gwrthryfel Machynlleth, a Catrin O’Neill yn canu ambell gân.
“O ddrwg i waeth”
“Mae hi’n mynd o ddrwg i waeth, a dyw’r Llywodraeth ddim yn gwneud digon amdano fe – mae eisiau ryw ddeddfwriaeth,” meddai Dewi Pws, sy’n byw yn Nefyn, Pen Llŷn.
“Mae tai haf wedi bod gyda ni ar hyd yr oesoedd, ond nawr, yn enwedig ym Mhen Llŷn, rydym ni’n teimlo fel fod llif mawr o Saesnigrwydd yn dod dros yr holl le.
“Mae rhai pobol leol yn rhentu tai, mae hwnnw’n fusnes, dydi o ddim yn berffaith, ond mae’n dod ag arian mewn i’r ardal.
“Ond y bobol yma sy’n dod mewn â phrynu, yr arian mawr, wel mae e just yn prisio pobol ifanc mas, a dydyn nhw ddim yn gallu byw adref.
“Roedden ni wedi bod yn rhoi sticeri ‘No To Second Homes’ ym Mhen Llŷn, a dyma’r boi yma yn rhuthro ato ni ar ôl ryw dridiau, roedd e wedi tynnu nhw i gyd lawr – s’dim ots gyda fi, mae miloedd gyda fi – ac mae e’n mynd: ‘This is disgusting, how dare they? Without us second home owners this place would be on it’s arse’.
“Ac maen nhw’n credu nad dwyn ein cartrefi ni maen nhw, maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n gwneud ffafr â ni,” eglura Dewi Pws.
“Dyna pam dw i’n ei erbyn e. Dw i ddim yn erbyn pob tŷ haf, mae rhai gyda pobol leol fel busnes. Ond mae pobol yn dod o bant, dydyn nhw ddim yn parchu ein diwylliant ni, ein hiaith ni.
“Lot o’r bobol sy’n dod yma nawr, rhai newydd, dydyn nhw methu mynd draw i Sbaen, maen nhw wedi arfer bod yn afreolus, gwneud beth bynnag maen nhw moyn… wel, pentref bach tawel yw Nefyn fel arfer, ac maen nhw eisiau’r un bywyd â maen nhw’n ei gael pan maen nhw’n mynd i Sbaen.”
“Adennill”
Yn ôl Dewi Pws, mae’n galonogol gweld cynnydd yn aelodaeth YesCymru, ac mae’n disgwyl y bydd tipyn o bobol yn mynychu rali Cymdeithas yr Iaith yn Nhryweryn.
“Dyw hi byth rhy hwyr i fi. Nage stopio nhw nawr, ond adennill sydd eisiau. Adennill y tai’n ôl rhywsut,” meddai.
“Mae rheolau lot fwy llym yn Ardal y Llynnoedd a Chernyw, a dw i ddim yn gweld pam na allwn ni wneud yr un peth â nhw.
“Er mai yr un genedl ydyn nhw, y Saeson yng Nghernyw – ish – ac yn Ardal y Llynnoedd, maen nhw’n gweld fod y bobol yma’n dod mewn a chwalu eu ffordd o fyw nhw. Nid eu diwylliant nhw.
“Mae rhai yn dod yma, ac maen nhw’n dysgu’r iaith, ond ar y cyfan does dim parch.
“Mae’n ddigalon, ond mae’n galonogol wedyn i weld pethau fel YesCymru’n cynyddu, a’r rali yma – dw i’n disgwyl y bydd tipyn o bobol yma.
“Gobeithio fydd pobol yn dweud pethau mawr.”
“Eisiau gwneud mwy”
Yn ôl Dewi Pws, mae cynlluniau Llywodraeth Cymru “yn ddechrau”, ac mae e’n credu ei fod yn beth da eu bod nhw’n cydnabod y mater.
“Ond mae eisiau mynd â fo’n bellach fel bod dim mwy o dai haf yn cael eu prynu,” ychwanegodd.
“Ti ffili beio pobol, person Cymraeg â tŷ ac maen nhw’n cael miloedd ar filoedd amdano fo – dydyn nhw ddim yn mynd i ddweud ’na’. Alli di ddim beio nhw, ond dyna lle mae’r gwendid.
“Fysa’n neis cael rhyw fath o limit. Mae o’n anodd, dw i’n sylweddoli. Ond mae eisiau gwneud mwy, ac efallai ffeindiwn ni mas [yn y rali] beth sydd mewn golwg.
“Bydd hi’n ddifyr, fydd hi’n ŵyl yn ogystal â [bod yn] rali [wleidyddol], dw i’n credu.”