Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwerthfawrogi “llawn ddifrifoldeb y sefyllfa” ail gartrefi, yn ôl Mabon ap Gwynfor wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog Newid Hinsawdd heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 6).

Dywed llefarydd tai Plaid Cymru fod yr “argyfwng ail dai yn un symptom yn unig o argyfwng llawer dyfnach a llawer iawn mwy sy’n wynebu cymunedau ar hyd a lled Cymru”.

Wrth siarad â golwg360 wedi’r datganiad, dywedodd fod y Llywodraeth yn “sôn drwyddi draw am arbrofi, am dreialu, am gomisiynu ymchwil a gwneud rhyw hanner addewidion”, ond ei bod yn “ymddangos fod yna ddim brys yna”.

Ychwanegodd fod rhai o’i etholwyr ifanc yn ei chael hi’n anodd prynu tai yn eu hardaloedd lleol.

“Cymerwch hyn fel esiampl, merch oedd yn byw yn Llanuwchllyn, roedd hi’n edrych am rywle i rentu a ’mond rhywbeth fel 30 o lefydd posib oedd ar gael i rentu neu fforddio yng Ngwynedd gyfan, ond eto, roedd cannoedd ar gannoedd o dai ar Airbnb ar gael,” meddai.

Mae’r cynllun newydd gan Julie James, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd yn dilyn argymhellion Dr Simon Brooks, a bydd yn cynnwys “tair elfen uchelgeisiol” gan roi sylw i fforddiadwyedd ac argaeledd tai, yn ogystal â chyflwyno cynllun cofrestru ar gyfer llety gwyliau, a defnyddio systemau treth i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn cyfrannu’n deg i’r ardaloedd.

‘Obsesiwn’ gyda Hawl i Brynu

Eisoes mae’r Cediwadwyr wedi cynnig y dylai’r llywodraeth ystyried cyflwyno rhaglen ‘Hawl i Brynu’.

Ond mae Mabon ap Gwynfor yn mynnu na fyddai hyn yn datrys yr argyfwng.

“Dyw rhaglen Hawl i Brynu ddim yn mynd i ddatrys y broblem chwaith,” meddai.

“Dyw e ddim yn mynd i ateb y broblem mewn llefydd fel Aberdyfi neu ardaloedd ôl-ddiwydiannol fel Blaenau Ffestiniog chwaith.

“Mae gan y Ceidwadwyr, ac yn benodol y Ceidwadawyr Cymreig, ryw obsesiwn gyda hyn.”

Bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal cynllun peilot mewn un ardal yng Nghymru, sydd i’w chadarnhau dros yr haf, cyn ystyried cyflwyno hynny’n ehangach yn ddiweddarach.