Mae Aelod Seneddol yr SNP wedi gwneud hwyl am ben tîm pêl-droed Lloegr drwy awgrymu y gall pa mor agos ddaethon nhw at ennill Ewro 2020 fod yn y llyfrau hanes ymhen rhai blynyddoedd – ochr yn ochr â Robert Burns, William Shakespeare a glanio ar y lleuad.
Daw sylwadau Brendan O’Hara ar drothwy gêm gyn-derfynol yr Ewros, wrth i Loegr herio Denmarc yn Wembley nos yfory (nos Fercher, Gorffennaf 7) ac ar ôl i’r Alban fynd allan o’r gystadleuaeth ar ôl tair gêm grŵp.
Fe fu aelodau seneddol yn San Steffan yn trafod Bil Diddymu a Galw’r Senedd, a fyddai’n rhoi’r hawl i Lywodraeth Prydain alw etholiad cyffredinol unrhyw bryd.
Yn ôl Brendan O’Hara, Aelod Seneddol Argyll & Bute, fyddai’r SNP ddim fel arfer “yn poeni ryw lawer” am amseru etholiadau.
“Yn wir, dydyn ni ddim yn bwriadu bod yma lawer yn hirach,” meddai, wrth gyfeirio at yr ymgyrch tros annibyniaeth i’r Alban.
“Gobeithio y bydd rhan yr Alban yn etholiadau cyffredinol y Deyrnas Unedig yn cael eu gwthio i’r llyfrau hanes y bydd plant yn dysgu ohonyn nhw, ochr yn ochr â Robert Burns, William Shakespeare, glaniadau’r lleuad, a sut y daeth Lloegr mor agos at ennill Pencampwriaethau Ewrop.”