Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn canmol pobol ifanc sydd wedi cadw at gyfyngiadau lleol i atal ymlediad COVID-19.

Maen nhw hefyd wedi rhoi clod i’r rhai sydd wedi dewis cael y brechlyn yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae’r bwrdd iechyd yn gyfrifol am ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

“Rwyf wedi bod mor falch o weld sut mae pawb wedi tynnu at ei gilydd i helpu dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys ein poblogaeth iau,” meddai Maria Battle, cadeirydd y bwrdd iechyd.

“Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu cyfraniad, megis rhannu gwybodaeth a chyngor pwysig â phobl ifanc eraill.

“Roedd yn braf gweld faint ohonyn nhw a gefnogodd y Bwrdd Iechyd yn ystod y pandemig trwy weithio neu wirfoddoli yn y GIG yn enwedig yn ystod yr amseroedd tywyllach pan oedd pawb yn pryderu.”

Bygythiad o drydedd don

Er hyn, mae galw ar iddyn nhw barhau â’r ymdrechion hyn yn dilyn cynnydd eto yn nifer yr achosion Covid-19 yn y dair sir.

Does dim disgwyl hyd yn hyn y bydd derbyniadau ysbyty’n cynyddu, ond mae’r risg o ddioddef o’r feirws yn parhau i’r rhai sydd heb eu brechu.

Mae’r bwrdd iechyd yn annog unigolion rhwng 18 a 29 oed i dderbyn y brechlyn ac i gymryd rhagofalon fel cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb.