Mae Llywodraeth Cymru yn “osgoi craffu” drwy wrthod lansio ymchwiliad annibynnol i Covid-19 yng Nghymru, yn ôl Plaid Cymru.

Dywed Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, y dylai Llywodraeth Cymru fod yn barod i gael eu barnu ar eu gweithredoedd, “da a drwg”, yn ystod y pandemig.

Daw hyn wedi i ymchwil newydd gan Newyddion S4C ddangos bod chwarter marwolaethau Covid-19 Cymru yn deillio o bobol yn cael eu heintio yn yr ysbyty.

Mae Rhun ap Iorwerth yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad Covid-19 sy’n benodol i Gymru ar unwaith, er mwyn craffu’n briodol ar benderfyniadau gafodd eu gwneud a dysgu gwersi “yn syth”.

Cefndir

Ar Fehefin 8, galwodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu “ymchwiliad cyhoeddus annibynnol” i’r pandemig Covid-19 yng Nghymru.

Gwrthododd Mark Drakeford bryd hynny, gan ddweud ei fod wedi “cytuno gyda Llywodraeth San Steffan ein bod yn mynd i fod yn rhan o’r ymchwiliad cyhoeddus mae’r Prif Weinidog wedi’i gyhoeddi”.

“Cyn belled ag yr ydw i’n gwybod, dyma’r unig ymchwiliad sydd wedi cael ei gynnig yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dw i wedi gwneud y pwynt fy mod yn credu y bydd angen penodau penodol yn yr ymchwiliad sy’n mynd i’r afael â’r profiad yma yng Nghymru.”

Pobol Cymru yn “haeddu” ymchwiliad

“Am dros flwyddyn mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r ffordd yr ymdriniwyd â’r pandemig yng Nghymru,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Yn hytrach, mae’r Llywodraeth Lafur wedi dewis cael pennod Gymreig mewn ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

“Trwy wrthod ymchwiliad sy’n benodol i Gymreig, mae Llywodraeth Cymru i bob pwrpas yn cytuno i oedi Boris Johnson.

“Deilliodd chwarter marwolaethau Covid o ganlyniad i heintiau a gafodd eu contractio yn yr ysbyty rhywbeth a amlygwyd mewn ymchwil newydd sy’n cael ei adrodd heddiw.

“Siawns bod hynny ar ei ben ei hun yn haeddu ymchwiliad penodol i Gymru.

“Mae angen dysgu gwersi yn syth. Ni fydd pobol Cymru – yn enwedig y rhai sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan ganlyniadau trasig y pandemig – yn disgwyl dim llai.”

‘Un ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig sydd orau’

Wrth ymateb i sylwadau Rhun ap Iorwerth, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod “y Prif Weinidog wedi dweud y bydd Cymru yn rhan o ymchwiliad cyhoeddus y Deyrnas Unedig i bandemig y coronafeirws, ac mae’r Prif Weinidog (Boris Johnson) wedi cyhoeddi’r ymchwiliad hwnnw”.

“Un ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig yw’r ffordd orau o daflu goleuni a deall y profiadau y mae pobol wedi’u cael yng Nghymru yn ystod y pandemig parhaus hwn,” meddai wedyn.

Andrew R T Davies

Andrew RT Davies yn galw am ymchwiliad Cymreig i’r pandemig Covid-19

Bydd Cymru’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad ar lefel Brydeinig, meddai Mark Drakeford wrth ymateb