Mae ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi canfod fod pobol yn dueddol o weld Covid-19 fel bygythiad oherwydd y gallai arwain at y Llywodraeth yn cyflwyno cyfyngiadau symud.

Ac mae’n darogan y bydd cyhoedd y Deyrnas Unedig yn debygol o gymryd y pandemig yn llai o ddifrif unwaith y bydd cyfyngiadau’n cael eu llacio.

Cafodd yr ymchwil ei chynnal ar y cyd â phrifysgolion Caerfaddon ac Essex.

Fe wnaethon nhw gynnal dau arolwg, chwe mis ar wahân, yn ystod 2020.

Cafodd eu canfyddiadau eu cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 7) yng nghyfnodolyn y Royal Society Open Science.

“Er mawr syndod i ni, gwelsom fod pobol yn barnu difrifoldeb bygythiad Covid-19 ar sail y ffaith bod y llywodraeth wedi gosod cyfyngiadau symud – mewn geiriau eraill, roedden nhw’n meddwl ’mae’n rhaid bod pethau’n ddrwg os yw’r llywodraeth yn cymryd camau mor eithafol’,” meddai’r prif awdur Dr Colin Foad.

“Gwelsom hefyd mai’r mwyaf yr oeddent yn barnu’r risg fel hyn, y mwyaf yr oeddent yn cefnogi’r cyfyngiadau symud.

“Mae hyn yn awgrymu os a phryd y daw ‘Diwrnod Rhyddid’ a bod cyfyngiadau’n cael eu codi, y gall pobl fychanu bygythiad Covid.”

Mae’n werth nodi mai dim ond yn Lloegr y bydd cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio ar Orffennaf 19, neu “diwrnod rhyddid” fel y mae Boris Johnson yn cyfeirio ato.

Canfyddiadau eraill

Roedd canfyddiadau eraill yr ymchwil yn cynnwys:

  • Roedd codi bygythiad personol pobol yn annhebygol o wella eu cefnogaeth i gyfyngiadau.
  • Roedd pobol yn cefnogi’r cyfyngiadau symud ond yn meddwl bod llawer o’i sgil-effeithiau yn “annerbyniol”.

“Gwelwn nad yw ymdeimlad personol y rhan fwyaf o bobol o fygythiad yn ymwneud â’u cefnogaeth i gyfyngiadau,” meddai Dr Colin Foad.

“Yn hytrach, barnodd pobol y bygythiad ar lefel llawer mwy cyffredinol, megis tuag at y wlad gyfan.

“Felly, mae unrhyw negeseuon sy’n targedu eu hymdeimlad personol o fygythiad yn annhebygol o godi cefnogaeth i unrhyw gyfyngiadau pellach.”