Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn trafod seilwaith trafnidiaeth Cymru heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 7), wrth iddyn nhw gyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu â mynd i’r afael â thagfeydd a llygredd aer.
Maen nhw’n anfodlon fod gwaith ar ffordd liniaru’r M4 wedi cael ei ganslo, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru’n anwybyddu “manteision economaidd ac amgylcheddol y cynllun”.
Mae diffyg mynd i’r afael â safonau gwael trafnidiaeth gyhoeddus wedi gwaethygu sefyllfaoedd seilwaith Cymru, gyda thoriadau sylweddol mewn gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn cymunedau mwy gwledig, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Bydd y blaid yn cynnig cynllun ar gyfer trafnidiaeth sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i:
- adeiladu ffordd liniaru’r M4, uwchraddio’r A55 a’r A470, a deuoli’r A40 i Abergwaun
- canslo cynllunio i alluogi cyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru
- gwella mynediad i seilwaith gwefru cerbydau trydan yn sylweddol
- gweithio gyda gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i bobol ym mhob rhan o’r wlad.
‘Esgeulustod’
“Mae esgeulustod Llafur o seilwaith Cymru dros y 22 mlynedd diwethaf wedi gweld ein rhwydwaith ffyrdd, rheilffyrdd a bysiau yn dirywio,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dydy llawer o ffyrdd ledled Cymru ddim yn addas erbyn hyn ac mae hyn wedi cael effaith niweidiol ar ein ffyniant economaidd, ein hamgylchedd a diogelwch y cyhoedd.
“Mae tagfeydd traffig rheolaidd yn atal buddsoddiad ac wedi cyfrannu at sicrhau bod gennym yr ansawdd aer gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, tra nad yw ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn gallu ymdopi ar ôl blynyddoedd o reolaeth wael a thanfuddsoddi gan weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd.
“Mae angen cynllun arnom a fydd yn trawsnewid ein seilwaith hufennog i sicrhau bod symud nwyddau a phobl yng Nghymru yn gyflymach, yn rhatach ac yn lannach – nid polisïau a fydd yn dychryn busnesau ac yn atal economi Cymru.”
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i ddarparu seilwaith trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru sy’n darparu cysylltedd rhagorol ym mhob rhan o’r wlad ac yn cyflawni ein hamcanion newid hinsawdd.”