Mae dyn o Abertawe wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ladd dyn 60 oed mewn ymosodiad yn Oxford Circus yn Llundain.

Cafodd Stephen Dempsey ei drywanu ynghanol Llundain ar 1 Gorffennaf a bu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Fe ymddangosodd Tedi Fanta Hagos, 25, o Ravenhill, Abertawe gerbron yr Old Bailey drwy gyswllt fideo o garchar Wandsworth ar gyfer gwrandawiad cychwynnol ddydd Mawrth (6 Gorffennaf).

Mae wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac o fod ag arf yn ei feddiant.

Fe fydd yn mynd gerbron llys eto ar 21 Medi ar gyfer gwrandawiad i gyflwyno ple ac mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa.