Mae undeb athrawon UCAC wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd modd oedi cyflwyno’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru am flwyddyn oherwydd heriau’r pandemig.
Dywed Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, y bydd ysgolion uwchradd yn cael dewis parhau â’u cynlluniau presennol i ddechrau yn 2022 gyda Blwyddyn 7 neu i ddechrau yn 2023 gyda Blynyddoedd 7 ac 8 gyda’i gilydd.
Ond fe fydd disgwyl i ysgolion cynradd a meithrinfeydd gyflwyno’r drefn newydd o fis Medi 2022.
Y bwriad oedd cyflwyno’r cwricwlwm ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol uwchradd, ar yr un pryd â’r ysgol gynradd ond fe fydd modd oedi hyn rwan ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8 tan 2023.
Mae UCAC wedi dweud bod blwyddyn ychwanegol ar gyfer y sector uwchradd “yn werthfawr dros ben”.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn darparu cymorth ychwanegol i ysgolion er mwyn cyflwyno’r cwricwlwm newydd.
Bydd yn cael ei gyflwyno yn raddol o fis Medi 2022 ymlaen mewn ysgolion cynradd a lleoliadau meithrin.
Mae’r Gweinidog Addysg hefyd wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn:
- Sefydlu Rhwydwaith Cenedlaethol er mwyn cefnogi rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith.
- Darparu £7.24 miliwn i ysgolion i gefnogi eu cynlluniau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm, gan gynnwys ymgysylltu â’r Rhwydwaith Cenedlaethol.
- Dileu’r gofyniad i gynnal asesiadau ar ddiwedd y cyfnod sylfaen a diwedd cyfnodau allweddol ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022, ar gyfer grwpiau blwyddyn a fydd yn trosglwyddo i’r cwricwlwm newydd ym mis Medi 2022.
- Diweddaru’r ddogfen ‘Cwricwlwm i Gymru: Y daith hyd at 2022’, gan gydnabod y cyd-destun presennol a’r gwahanol fannau cychwyn a fydd gan lawer.
“Hyblygrwydd”
“Fy mlaenoriaeth yw rhoi lles a chynnydd dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn,” meddai Jeremy Miles.
“Mae Cwricwlwm i Gymru yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i chwyldroi safon y cyfleoedd i’n plant a’n pobol ifanc ac rwy’n benderfynol nad ydym am golli’r cyfle hwnnw.
“Rwy’n cydnabod bod ysgolion uwchradd wedi wynebu heriau penodol fel rheoli cymwysterau, sydd, mewn rhai achosion, wedi effeithio ar eu parodrwydd ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm.
“Rwy’n deall y pryderon hyn, ac wedi penderfynu darparu hyblygrwydd ychwanegol i ysgolion lle maent yn barnu bod arnynt ei angen.
“Rhaid i’n system gymwysterau gyd-fynd â’r uchelgais gyffrous y tu ôl i’n cwricwlwm.
“Bydd yr hyblygrwydd i ysgolion uwchradd yn 2022 yn rhoi cyfle i’r sector weithio’n agos gyda Chymwysterau Cymru dros y flwyddyn i ddod i gyd-lunio set o gymwysterau o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd ag athroniaethau’r cwricwlwm newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg wrth ystyried dulliau asesu.”
“Croeso gofalus”
Wrth ymateb i gyhoeddiad Jeremy Miles, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae UCAC yn dueddol o gytuno bod mwy o barodrwydd yn gyffredinol yn y sector cynradd i fwrw ymlaen yn unol â’r amserlen wreiddiol, tra bod blwyddyn ychwanegol ar gyfer y sector uwchradd yn werthfawr dros ben.
“Mae’n gydnabyddiaeth o’r ffaith bod newid dulliau dysgu a strwythurau’n fwy o her i’r sector uwchradd, yn ogystal â’r ffaith bod ysgolion uwchradd wedi’u llethu i raddau helaeth iawn gan y trefniadau amgen ar gyfer cymwysterau eleni.
“Rydym yn rhoi croeso gofalus yn ogystal i’r gefnogaeth ychwanegol o ran cyllid, sefydlu’r Rhwydwaith Cenedlaethol, a’r addasiad i fframweithiau Estyn, er bod llawer o fanylion i’w cadarnhau eto.
“Yr unig siom sydd gennym yw bod cyflwyno’r cwricwlwm i Flynyddoedd 7 ac 8 ar yr un pryd yn 2023 yn colli’r cyfle i roi blwyddyn ychwanegol ar gyfer addasu cymwysterau i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd.
“Mae yna waith sylweddol iawn i’w wneud i sicrhau – yn unol â gweledigaeth y Gweinidog – bod ein cymwysterau yn cyd-fynd â’r uchelgais gyffrous tu ôl i’n cwricwlwm.”