Mae timau achub wedi dod o hyd i wyth yn rhagor o gyrff yn rwbel bloc o fflatiau yn Miami oedd wedi dymchwel bythefnos yn ôl.

Hyd yn hyn mae nifer y meirw wedi cynyddu i 36 gyda mwy na 100 o bobl yn dal ar goll.

Mae timau achub yn parhau i chwilio drwy rwbel yr adeilad, y Champlain Towers South, yn Surfside ond pylu mae’r gobeithio o ddod o hyd i unrhyw un yn fyw.

Mae gwynt a glaw yn sgil Corwynt Elsa hefyd wedi amharu ar ymdrechion y timau achub.

Nid oes unrhyw un wedi cael eu darganfod yn fyw ers yr oriau cyntaf ar ôl i’r adeilad ddymchwel ar 24 Mehefin, pan oedd nifer o’r trigolion yn cysgu.

Roedd yr Arlywydd Joe Biden wedi ymweld â’r ardal wythnos ddiwethaf.

Dywed Maer Miami-Dade Daniella Levine Cava bod teuluoedd y rhai sydd ar goll bellach yn paratoi ar gyfer newyddion am “golled drasig”.

Mae criwiau wedi symud 124 tunnell o rwbel o’r safle erbyn hyn ac mae’n cael ei storio mewn warws fel tystiolaeth bosib mewn ymchwiliad i’r hyn oedd wedi achosi i’r adeilad ddymchwel.