Mae grŵp o feddygon blaenllaw a gweithwyr proffesiynol perthynol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad i’r ffordd y gwnaeth ymdrin â Covid-19 yng Nghymru.
Daw hyn wedi i ymchwil newydd gan Newyddion S4C ddangos bod chwarter marwolaethau Covid-19 Cymru yn deillio o bobol yn cael eu heintio yn yr ysbyty.
Ffurfiwyd y grŵp, Medics4MaskUpWales, ym mis Mehefin 2020 gyda’r pwrpas o roi pwysau ar Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fabwysiadu canllawiau a strategaethau effeithiol i leihau trosglwyddiad Covid-19.
Daw hyn wrth i Blaid Cymru gyhuddo Llywodraeth Cymru o “osgoi craffu” drwy wrthod lansio ymchwiliad annibynnol i Covid-19 yng Nghymru, yn ôl Plaid Cymru.
Ac ar 8 Mehefin, galwodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu “ymchwiliad cyhoeddus annibynnol” i’r pandemig Covid-19 yng Nghymru.
Mewn llythyr agored at Lywodraeth Cymru, mae Medics4MaskUpWales yn galw am “graffu ar y penderfyniadau a’r camau a gymerwyd yn unol â’r dystiolaeth wyddonol”.
Dywed fod angen i ymchwiliad edrych ar y cwestiynau isod:
- Sut allwn ni wella Profi, Olrhain ac Amddiffyn yng Nghymru?
- Sut y gellir tywys sefydliadau gofal iechyd i leihau marwolaethau sy’n gysylltiedig â throsglwyddo Covid-19 yn yr ysbyty?
- Pa ffactorau a gyflawnwyd mewn sefydliadau addysgol (ysgolion cynradd ac uwchradd, sefydliadau addysg bellach ac uwch) a helpodd i leihau trosglwyddiad a sut y gellir gwella hyn?
- Beth oedd effeithiau oedi wrth weithredu masgiau a diffyg pwyslais ar awyru?
- Beth arweiniodd at y problemau cychwynnol gyda chaffael profion PPE a PCR a sut y gellir atal problemau caffael yn y dyfodol?
- Pam nad oedd Gofal Sylfaenol yn rhan o ddarparu’r rhaglen frechu o’r cychwyn cyntaf?
- Sut gall ein harweinwyr ddatblygu prosesau gwneud penderfyniadau cyflym ac ymatebol yn wyneb pandemig sy’n esblygu’n gyflym?
Rhybudd am “farwolaethau diangen”
“Credwn fod angen edrych yn ôl ar frys ar brofiadau’r 15 mis diwethaf, i graffu ar y penderfyniadau a’r camau a gymerwyd yn unol â’r dystiolaeth wyddonol gynyddol sydd wedi datblygu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol; i adolygu arfer gorau ac i fyfyrio ar unrhyw gamgymeriadau a wnaed, a dysgu ohonynt,” meddai Medics4MaskUpWales mewn llythyr agored at Lywodraeth Cymru.
“Yna gellir defnyddio’r gwersi a ddysgwyd i lywio ymatebion i’r pandemig wrth symud ymlaen.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru yn gryf i nodi marwolaethau a niwed arall sy’n gysylltiedig â SARS-CoV-2 fel digwyddiad difrifol a defnyddio’i phwerau datganoledig i gychwyn ymchwiliad ar frys i drin y pandemig yng Nghymru.
“Bydd osgoi ymchwiliad swyddogol ar unwaith yn sicr yn arwain at niwed economaidd pellach, anallu tymor hir a marwolaethau diangen.”