Mae cwmni teledu, Cwmni Da, wedi cael eu henwebu am saith gwobr yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd.

Pe bai nhw’n llwyddiannus ar bob un, dyna fyddai’r nifer uchaf o wobrau i un cwmni teledu ers sefydlu’r digwyddiad.

Yn ogystal, mae’r saith enwebiad yn cyfateb i hanner nifer yr enwebiadau a gafodd yr holl gwmnïau teledu sy’n gwneud rhaglenni i S4C – 14 mewn cyfanswm.

Mae Cwmni Da wedi ei leoli yn Noc Fictoria, Caernarfon, ac yn cyflogi 53 aelod o staff a gweithwyr llawrydd.

Ymysg rhai o’u rhaglenni amlycaf ar S4C mae Fferm Ffactor, Noson Lawen a Ffit Cymru.

Yr enwebiadau

  • Eirlys, Dementia a Tim – Rhaglen Ddogfen Unigol a gwobr rhuban glas Ysbryd yr Ŵyl
  • 47 Copa – Chwaraeon
  • Rybish – Comedi
  • Côr Digidol – Adloniant
  • Y Côr – Celfyddydau
  • Nadolig Deian a Loli – Rhaglen Blant

 

Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Llion Iwan, roedd cael cymaint o raglenni ar y rhestr fer yn destun balchder “tawel” iddo.

“Yr hyn sy’n drawiadol i mi yw bod ein rhaglenni wedi cyrraedd y rhestr fer mewn cymaint o gategorïau amrywiol sy’n dangos pa mor aml-dalentog yw ein tîm,” meddai.

“Rydym yn lwcus iawn bod gennym graidd o gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr hynod greadigol a phrofiadol yn ogystal â phobl iau sy’n cael eu mentora.

“Trwy ad-drefnu ein hamserlenni a newid sut rydyn ni’n gweithio, rydym wedi gallu parhau i gynhyrchu rhaglenni trwy’r pandemig ac rydym wedi gwneud cymaint ag y gallwn i gefnogi gweithwyr llawrydd profiadol yn ein hardal sydd wedi bod yn ffyddlon i’r cwmni.

“Rydym hefyd wedi parhau i gyfrannu at yr economi leol ac arhosodd ein trosiant yn sefydlog y llynedd ar oddeutu £5 miliwn.

“Rydw i wedi bod yn mynychu gwyliau ffilm a chystadlaethau tebyg i hon ers blynyddoedd lawer ac rwy’n gwybod eu bod yn werth chweil yn enwedig os ydych chi’n ennill cydnabyddiaeth mewn sawl categori.

“Mae’n ffenestr siop ardderchog i ni ac mae’n mynd i fod yn dda i fusnes oherwydd mae’n arddangos yr hyn y gallwn ei wneud.”

Mae’r ŵyl fel arfer yn cael ei chynnal yn Quimper, Llydaw, ond fe fydd eleni’n digwydd yn rhithiol rhwng  7 a 9 Medi.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhwydweithio, sesiynau panel a chyflwyniadau yn digwydd ar-lein.