Mae S4C wedi cyhoeddi penodiad Amanda Rees fel Cyfarwyddwr Llwyfannau cyntaf y sianel.
Yn ei rôl bydd hi’n ymgymryd â’r gwaith o ymestyn cyrhaeddiad ac ystod cynnwys digidol S4C. Mae Amanda Rees wedi bod yn Gyfarwyddwr Cynnwys y Sianel ers 2016.
Ond y bwriad drwy ei phenodi i’r rôl newydd ydi sicrhau fod S4C yn gallu “ymateb i heriau a chyfleoedd digidol y dyfodol”.
Dywed Amanda Rees ei bod hi am “sbarduno ac arwain yr holl waith yma”.
“Mae’n fraint ac yn gyfrifoldeb cael ymgymryd â’r her yma,” meddai.
“Byddai’n gweithio gyda’r tîm comisiynu a gyda thimau technegol mewnol ac allanol S4C er mwyn gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn un gwir aml-lwyfan a chyfoes.
“Y cam mawr nesaf ydy esblygu’r gwasanaeth i gyfeiriad digidol gyda strategaeth gyhoeddi gynhwysfawr sy’n dathlu gwylio a defnydd o’n cynnwys ar draws bob platfform.
“Bydd hyn yn gofyn i’r sector, y comisiynwyr a’r technegwyr ddeall anghenion technegol y llwyfannau ac anghenion y wahanol gynulleidfaoedd.
“Fy rôl i fydd sbarduno ac arwain yr holl waith yma.”
“Allweddol”
Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydym eisoes yn cyflwyno rhaglenni a chynnwys S4C i wylwyr ar bob math o lwyfannau, nid ar un sianel deledu yn unig.
“Ond bydd hyn yn dod yn fwyfwy pwysig ac mae angen cynllunio’n strategol er mwyn gwneud y mwyaf ohono.
“Felly bydd y gwaith mae Amanda am fod yn ymgymryd ag o yn allweddol os yw S4C am lwyddo yn y blynyddoedd i ddod.
“Mae Amanda Rees wedi bod yn Gyfarwyddwr Cynnwys y sianel ers 2016 ac o dan ei harweiniad mae S4C wedi ennill nifer o wobrau Cymreig, Celtaidd a Phrydeinig am raglenni drama, adloniant ysgafn a ffeithiol.
“Mae’r sianel hefyd wedi mwynhau ei chyrhaeddiad uchaf ers 2017 a’r cyfartaledd oriau brig uchaf ers 2015 yn ystod ei chyfnod fel Cyfarwyddwr Cynnwys.”