Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod rhaid i’r rheiny sy’n ymgeisio am swyddi gyda nhw fod â gwybodaeth ‘lefel cwrteisi’ o’r Gymraeg.

Ymhlith y gofynion sy’n cael eu rhestru mae’r gallu i ynganu termau ac enwau drwy gyfrwng y Gymraeg, a chyfarch pobl yn ddwyieithog.

Yn flaenorol, roedd y llywodraeth yn hysbysebu swyddi gan nodi nad oedd “angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swydd hon,” ond bydd y nodwedd hynny’n cael ei waredu o dan y drefn newydd.

Bellach, bydden nhw’n rhestru’r Gymraeg fel “sgil dymunol, hanfodol, neu i’w dysgu yn y swydd.”

Ers 2011, mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, sy’n golygu bod rhaid i’r sector gyhoeddus gynnig gwasanaethau dwyieithog.

Mae hefyd yn plethu i mewn gyda strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio cynyddu’r nifer siaradwyr Cymraeg i un miliwn erbyn hanner ffordd drwy’r ganrif hon.

Noda’r Llywodraeth yn y ddogfen honno eu bod “eisiau ac angen i fwy o staff Llywodraeth Cymru feddu ar sgiliau Cymraeg y gallant eu defnyddio yn y gweithle.”

Y gofynion ‘lefel cwrteisi’ yn llawn:

  • Ynganu geiriau, enwau, enwau llefydd a thermau Cymraeg.
  • Gallu i ateb galwadau ffôn, cyfarch pobl a gwneud cyflwyniadau yn ddwyieithog.
  • Deall a defnyddio ymadroddion a geiriau allweddol syml.
  • Darllen a deall testunau byr sy’n cynnwys gwybodaeth syml drwy’r iaith.
  • Arddangos ymwybyddiaeth ieithyddol – sy’n cynnwys gwerthfawrogiad o bwysigrwydd yr iaith mewn cymdeithas a deallusrwydd o beth sydd ei angen i gynnig gwasanaeth dwyieithog i gwsmeriaid.

Nod i fod yn ‘sefydliad cwbl ddwyieithog’

“Rydyn ni’n cryfhau ein gofynion recriwtio cyfrwng Cymraeg fel rhan o’n strategaeth ‘Cymraeg: Mae’n perthyn i ni gyd’, sy’n gosod ein cynlluniau tymor hir i ddod yn sefydliad cwbl ddwyieithog, lle mae pawb yn deall y Gymraeg” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fel rhan o’r newidiadau, byddwn yn annog pob gweithiwr newydd i arddangos neu ddysgu lefel cwrteisi o Gymraeg, a pharhau i annog a helpu staff i ddysgu Cymraeg drwy ein rhaglen hyfforddi, sydd ar gael i’n holl weithlu.

“Rhwng 2020 a 2021, gwelon ni gynnydd o 44% mewn ceisiadau am wersi Cymraeg ymysg staff.”

Ymateb

Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu’r newidiadau mewn datganiad i BBC Cymru.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan eu bod “wedi ymrwymo” i’r strategaeth miliwn o siaradwyr, ond “yn ystod cyfnod o adferiad cenedlaethol, dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu recriwtio’r person gorau ar gyfer y swydd.”

“Ar hyn o bryd, dydy’r mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru – bron i dri chwarter – ddim yn siarad Cymraeg, ond ddylai hynny ddim eu hatal nhw rhag gweithio yn y gwasanaeth sifil na chyfrannu at fywyd cyhoeddus Cymru,” ychwanegodd.

Ar y llaw arall, mae Llywodraeth Cymru’n dweud na ddylai’r anallu i siarad yr iaith fod yn rhwystr, a bod gan “bawb y potensial i fod yn siaradwr Cymraeg” drwy gael gwersi.