Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi condemnio’r casineb hiliol a anelwyd at dri o chwaraewyr Lloegr yn dilyn rownd derfynol Ewro 2020 neithiwr (nos Sul, 12 Gorffennaf).

Colli 3-2 ar giciau o’r smotyn yn erbyn yr Eidal oedd hanes Lloegr, gyda Marcus Rashford, Jadon Sancho a Bukayo Saka yn methu.

Roedd tudalennau cyfryngau cymdeithasol y tri chwaraewr yn llawn sylwadau hiliol ffiaidd yn fuan ar ôl y gêm.

“Mae’r casineb hiliol sydd wedi dilyn rownd derfynol Ewro 2020 yn gwbl annerbyniol, rydym yn ei gondemnio’n ddiamod,” meddai Mark Drakeford ar Twitter.

“Rydym yn sefyll gyda chwaraewyr Lloegr yn erbyn unrhyw fath o wahaniaethu – nid oes lle iddo o fewn ein cymdeithas.”

“Cywilydd”

Dywedodd Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd a Llefarydd Llafur ar Ddiwylliant yn San Steffan y byddai ganddi “gywilydd” os mai hi fyddai’r Prif Weinidog neu’r Ysgrifennydd Cartref.

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi’n credu mai Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, oedd yn rhannol gyfrifol am ymddygiad rhai o gefnogwyr Lloegr nos Sul (11 Gorffennaf), dywedodd wrth raglen World at One y BBC: “Rwy’n credu bod ei eiriau a’i ddiffyg gweithredu yn anfon neges at bobol sy’n teimlo ei bod yn iawn bod yn hiliol.

“Gallwch ddadlau a oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y ddau ond mae pob un ohonom yn wynebu canlyniadau am yr hyn rydym yn ei wneud yn enwedig os mai chi yw’r prif weinidog a’ch bod mewn sefyllfa o gyfrifoldeb ac arweinyddiaeth yn y wlad.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Yr oll mae’r Prif Weinidog wedi ei wneud yw anwybyddu’r hiliaeth yn erbyn ein chwaraewyr.

“Nid yw geiriau cynnes a baneri Lloegr anferthol yn gallu disodli defnyddio’r pŵer sydd ganddo, i wneud iddo stopio.”

Natalie Elphicke yn ymddiheuro am feirniadu Rashford

Yn y cyfamser, mae Natalie Elphicke, Aelod Seneddol Ceidwadol Dover, wedi ymddiheuro am ddweud y dylai Marcus Rashford fod wedi treulio llai o amser yn “chwarae gwleidyddiaeth”.

Gwnaeth y sylw mewn neges i Aelodau Seneddol eraill ar ôl i’r pêl-droediwr fethu ei gic o’r smotyn.

Arweiniodd Rashford ymgyrch i berswadio’r Llywodraeth i ddarparu prydau am ddim i blant ifanc sy’n agored i niwed drwy gydol gwyliau’r ysgol yn ystod pandemig y coronafeirws, gan orfodi’r Prif Weinidog Boris Johnson i wneud tro pedol ar y mater.

Mewn neges breifat, dywedodd Natalie Elphicke: “Fe gollon nhw – a fyddai’n annheg awgrymu y dylai Rashford fod wedi treulio mwy o amser yn perffeithio ei gêm a llai o amser yn chwarae gwleidyddiaeth.”

Ymddiheurodd ar ôl i’r neges gael ei hadrodd gan GB News.

“Rwy’n cymeradwyo tîm Lloegr a geisiodd eu gorau yn Euro 2020.

“Neithiwr rhannais rwystredigaeth a siomedigaeth miliynau o gefnogwyr Lloegr eraill.

“Rwy’n difaru rhannu fy ymateb brysiog i gic o’r smotyn Marcus Rashford mewn neges breifat, ac rwy’n ymddiheuro iddo am awgrymu nad yw’n canolbwyntio digon ar ei bêl-droed.

“Ymlaen i Gwpan y Byd ac edrychaf ymlaen at gyfraniad Marcus Rashford bryd hynny.”

Chwaraewyr yn dioddef casineb hiliol ar ôl methu ciciau cosb i Loegr

Heddlu’n ymchwilio i gamdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol

Y Saeson yn boddi wrth ymyl y lan

Yr Eidal yn ennill pencampwriaeth Ewrop â chiciau o’r smotyn

Grazie Azzurri! Dathliadau mawr yn yr Eidal

Miloedd o gefnogwyr yn croesawu’r pencampwyr yn ôl i Rufain