Mae undeb wedi rhybuddio bod gweithwyr rheilffordd Llundain yn wynebu’r bygythiad o drais oherwydd rheolau “trafferthus a dryslyd” am wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd undeb y Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) y bydd staff yn cael eu rhoi mewn perygl o ymosodiadau a chael eu cam-drin oherwydd “negeseuon anghyson” ar wisgo gorchuddion wyneb o ddydd Llun nesaf (19 Gorffennaf).
Cafodd penderfyniad Maer Llundain Sadiq Khan y dylid parhau i wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn y brifddinas ei groesawu gan yr undebau ar ôl beirniadu rheolau’r Llywodraeth.
Dywedodd Mick Lynch, ysgrifennydd cyffredinol yr RMT: “Er ein bod yn croesawu’r dull gweithredu gan Faer Llundain y bore yma, sy’n gyson â’r polisïau a fabwysiedir ar hyn o bryd yng Nghymru, yr Alban ac ar Eurostar, mae gennym bellach y sefyllfa chwerthinllyd lle bydd gan deithiwr sy’n teithio drwy Lundain reolau gwahanol ar y Tiwb a’r gwasanaethau rheilffyrdd.
“Bydd newid polisi hefyd ar drenau ar ffiniau Cymru a’r Alban sy’n nonsens llwyr, ac a fydd yn gadael staff yn y rheng flaen mewn perygl pan ddaw’n fater o orfodi’r rheolau.
“O ganlyniad i’r dull anhrefnus hwn mae gennym bellach sefyllfa lle na ellir gorfodi mesurau Llundain yn ôl y gyfraith, sy’n golygu y bydd aelodau’r RMT yn cael eu taflu i sefyllfa elyniaethus a gwrthdrawiadol o ddydd Llun nesaf ymlaen ac mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin.
“Mae hynny’n ganlyniad o negeseuon dryslyd, anghyson a thrafferthus gan y Llywodraeth.”