Fe allai ynysoedd yn Sbaen sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr gael eu symud i’r rhestr oren, bythefnos yn unig ar ôl cael gwybod na fyddai’n rhaid i bobl fod mewn cwarantin ar ôl teithio yno, yn ôl adroddiadau.
Mae yna berygl y bydd yr Ynysoedd Balearaidd, sy’n cynnwys llefydd fel Ibiza, Mallorca a Menorca, yn cael eu symud oddi ar y rhestr werdd, sef y lleoliadau mae’r Llywodraeth yn eu hystyried yn ddiogel i deithio iddyn nhw, i’r rhestr oren ddydd Mercher (14 Gorffennaf).
Mae’n dilyn cynnydd mewn achosion o Covid-19 yno, yn ôl adroddiadau.
Mae pobl sy’n teithio i wledydd ar y rhestr oren, fel Sbaen, yn gorfod hunan-ynysu am 10 diwrnod pan maen nhw’n dychwelyd i Loegr.
Ond o 19 Gorffennaf, ni fydd y rhai sydd wedi cael ei brechu’n llawn, neu o dan 18 oed, yn gorfod bod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd.
Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi dweud nad oes “unrhyw beth i’w adrodd ar hyn o bryd” ynglŷn â newidiadau i statws deithio’r Ynysoedd Balearaidd.
Mae’r Eidal, yr Almaen a Gwlad Pwyl ymhlith y llefydd sy’n fwyaf tebygol o gael eu hychwanegu i restr werdd y Llywodraeth, yn ôl un arbenigwr.
Nid yw pobl sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd ar y rhestr werdd yn gorfod hunan-ynysu.
Yn y cyfamser mae’r Deyrnas Unedig wedi gweld cynnydd mewn achosion gyda 36,660 yn rhagor o achosion o Covid-19 yn cael eu cadarnhau ers 9yb ddydd Mawrth (13 Gorffennaf).