Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gynnal cynhadledd i’r wasg yn ystod dadl ar gynnal ymchwiliad annibynnol i Covid-19 yng Nghymru yn y Senedd.

Yn ol adroddiadau, fe fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi mewn cynhadledd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 14) fod modd llacio rhagor o gyfyngiadau Covid-19.

Ond dywedodd Rhun ap Iorwerth, dirprwy arweinydd Plaid Cymru: “Mae’n syfrdanol bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal cynhadledd i’r wasg yn ystod dadl yn y Senedd sydd wedi’i gynllunio’n benodol i sicrhau’r tryloywder mwyaf posibl o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r pandemig.

“Ni chafodd y Prif Weinidog a’i Weinidogion eu hethol i ystafell friffio Llywodraeth Cymru, fe’u hetholwyd i’r Senedd.

“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld cyhoeddiad ar ôl cyhoeddiad a wnaed drwy ddatganiad i’r wasg, yn hytrach nag yn ein Senedd lle gellir craffu’n briodol.

“Yn anffodus, dyma enghraifft arall o agwedd y Llywodraeth.”

Yn ddiweddar, dangosodd ymchwil gan Newyddion S4C bod chwarter marwolaethau Covid-19 Cymru yn deillio o bobol yn cael eu heintio yn yr ysbyty.

Galwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol i Covid-19 yng Nghymru bryd hynny, gan ddweud y dylai fod yn barod i gael ei barnu ar ei gweithredoedd, “da a drwg”, yn ystod y pandemig.

Ac ar 8 Mehefin, galwodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu “ymchwiliad cyhoeddus annibynnol” i’r pandemig Covid-19 yng Nghymru.

Gwrthododd Mark Drakeford bryd hynny, gan ddweud ei fod wedi “cytuno gyda Llywodraeth San Steffan ein bod yn mynd i fod yn rhan o’r ymchwiliad cyhoeddus mae’r Prif Weinidog wedi’i gyhoeddi”.

“Cyn belled ag yr ydw i’n gwybod, dyma’r unig ymchwiliad sydd wedi cael ei gynnig yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dw i wedi gwneud y pwynt fy mod yn credu y bydd angen penodau penodol yn yr ymchwiliad sy’n mynd i’r afael â’r profiad yma yng Nghymru.”

 

Plaid Cymru yn cyhuddo Llafur o osgoi ymchwiliad annibynnol i Covid-19 yng Nghymru

Dylai Llywodraeth Cymru fod yn barod i gael eu barnu ar eu gweithredoedd “da a drwg”, meddai Rhun ap Iorwerth
Andrew R T Davies

Andrew RT Davies yn galw am ymchwiliad Cymreig i’r pandemig Covid-19

Bydd Cymru’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad ar lefel Brydeinig, meddai Mark Drakeford wrth ymateb