Y gred yw y bydd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 14) fod modd llacio rhagor o gyfyngiadau Covid-19.

Er bod nifer yr achosion yn ymwneud ag amrywiolyn Delta ar gynnydd, Cymru sydd â’r cyfraddau Covid-19 isaf o blith gwledydd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, yn ogystal ag un o’r cyfraddau brechu uchaf yn y byd.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru oedi fis diwethaf cyn symud i rybudd lefel un ar gyfer lleoliadau a digwyddiadau dan do yn sgil pryderon am ymlediad amrywiolyn Delta.

Ond mae lle i gredu y bydd bellach modd bwrw ymlaen â hynny, wrth i Mark Drakeford wneud datganiad yn y Senedd y prynhawn yma (dydd Mercher, Gorffennaf 14), cyn cynhadledd i’r wasg am 5pm.

Bydd Mr Drakeford hefyd yn cyhoeddi diweddariad i’r Cynllun Rheoli Coronafeirws, a fydd yn nodi lefel rhybudd sero – cam ar gyfer y dyfodol, efallai rywbryd ym mis Awst, a fydd yn golygu llai o gyfyngiadau cyfreithiol eto.