Mae Mark Drakeford wedi dweud y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig feddwl yn ofalus cyn codi Jac yr Undeb ar y swyddfa dreth newydd yng Nghaerdydd gan y gallai roi hwb i YesCymru.

Mae swyddogion cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer yr arwydd sy’n 32 metr o uchder a 9 metr o led ar adeilad Llywodraeth y DU yng nghanol y ddinas.

Mae’r cynllun eisoes yn bwnc llosg gyda thros 19,000 o bobl wedi arwyddo deiseb gan Yes Cymru sy’n gwrthwynebu’r cynllun.

Fe nododd y prif weinidog nad oedd yn gallu siarad yn agored am y cynllun gan ei fod ar hyn o bryd o dan adolygiad barnwrol.

“Os mai diben eu gweithredoedd [Llywodraeth y DU] yw cryfhau’r undeb, yna mae angen iddynt ofyn i’w hunain a yw jac yr undeb ar y raddfa a’r maint y maen nhw’n ei gynnig yn debygol o gyflawni’r uchelgais hwnnw, neu a fydd yn gyrru mwy o lofnodwyr at ddeiseb i Yes Cymru yn gofyn iddi gael ei hailystyried,” meddai’r prif weinidog wrth ymateb i gwestiwn gan Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol Caerdydd.

Ac wrth siarad â golwg360, fe ddywedodd Rhys ab Owen AoS Canol De Cymru dros Blaid Cymru mai “baneri maint cyffredin sydd y tu fas i Dŷ Gwydyr, does dim baner o’r maint sy’n cael ei grybwyll ar gyfer Tŷ William Morgan ar yr adeilad yna”.

“S’dim syniad da fi os byddai modd i gael dwy faner o’r maint â hynny ar yr adeilad beth bynnag,” meddai.

‘Y Ddraig Goch ochr yn ochr â Jac yr Undeb?’

“Yn Nhŷ Gwydyr yn Llundain, mae baner Cymru—Y Ddraig Goch—a Jac yr Undeb, mae’r ddwy faner sydd yr un faint yn chwifio ar yr adeilad hwnnw,” meddai wrth ymateb i gwestiwn gan Darren Millar, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Clwyd.

“Tybed a yw Llywodraeth y DU wedi meddwl am ddynwared y ffordd y maent yn gweithredu yn Llundain yn y ffordd y byddant yn gweithredu, yn awr, yng nghanol Caerdydd?

“Pe bai nhw’n cyflwyno cais am faner Cymru o’r un maint a graddfa ar yr adeilad, wel, dim ond ailadrodd yr hyn y maent eisoes wedi penderfynu ei wneud lle mae Tŷ Gwydyr yn y cwestiwn yn Whitehall fyddai hynny.”

‘Gosod cynsail peryglus’

Wrth ofyn cwestiwn i’r Prif Weinidog heddiw, nododd ei fod yn bryderus y gallai’r penderfyniad osod “cynsail peryglus”.

“Os ydych chi’n gadael i hysbyseb mor fawr â hynny ymddangos ar ochr adeilad mawr yng nghanol Caerdydd, mae’n gosod cynsail i fusnesau wneud yr un peth er enghraifft cwmnïau bwyd cyflym neu gwmnïau betio [gosod hysbysiadau ar ochr adeiladau yn y ddinas],” meddai.

“Felly mae’n fwy na chwestiwn am ymdrech i wthio’r undeb, mae’n gwestiwn am a ddylech chi fod yn cael hysbysebion o’r maint yma ta beth.”

 

Jac yr Undeb enfawr i gael ei rhoi ar ochr Swyddfa Dreth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng Nghaerdydd

Daw hyn ar ôl i Gyngor Caerdydd roi sêl bendith i’r cynlluniau gan fod y faner yn cael ei ystyried yn “hysbyseb”.