Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am “Ddeddf Addysg Gymraeg radical”.

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei fod wedi methu ei darged ar gyfer nifer y plant saith oed sy’n dysgu drwy’r Gymraeg.

Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth yn mynnu bod yr ystadegau ar gyfer plant meithrin a derbyn yn “galonogol”.

Codi o 22% i 22.8% wnaeth cyfran y plant saith oed sy’n dysgu drwy’r Gymraeg, er mai 24% oedd y targed.

Mae Llywodraeth Cymru nawr yn gosod targed o gynyddu cyfran y plant blwyddyn un sy’n dysgu drwy’r Gymraeg o 23% i 26% dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ôl Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg, bydd cynllun Cymraeg 2050 yn “sicrhau ein bod ni yn symud i’r cyfeiriad iawn.”

Rhaglen waith

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu Rhaglen Waith newydd ar gyfer Cymraeg 2050.

Hon yw’r strategaeth genedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ymhlith y camau gweithredu a nodir yn y Rhaglen Waith, mae:

  • Cyflwyno Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg
  • Cyflwyno cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg
  • Gwella cyrhaeddiad disgyblion yn y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
  • Datblygu rhaglen i gefnogi defnydd o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc, gan ganolbwyntio ar bontio rhwng addysg, y gymuned, y teulu a’r gweithle
  • Creu Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg a defnyddio ysgogiadau economaidd i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith
  • Adnewyddu’r ffocws ar fanteision defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dydy’r Rhaglen ddim “yn ddigonol os ydym am gyrraedd, a mynd y tu hwnt, i’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg”.

‘Targedau statudol a buddsoddiad sylweddol’

“Mae’r methiant hwn yn dangos yr angen dybryd am Ddeddf Addysg Gymraeg radical,” meddai Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i weithredu drwy gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg, ond mae angen iddi fod yn Ddeddf fydd yn cyflwyno addysg Gymraeg i bawb, nid y lleiafrif ffodus yn unig.

“Ac mae angen iddi gynnwys targedau statudol a buddsoddiad sylweddol i ehangu’r gweithlu addysg Gymraeg.

“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i sefydlu nod hirdymor yn y ddeddfwriaeth i gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb, gwneud y Gymraeg yn gyfrwng iaith normadol ein holl system addysg ac am osod targed o 77.5% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2040.

“Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i’r Llywodraeth osod targedau statudol ar lefel lleol a chenedlaethol o ran darpariaeth addysg Gymraeg a recriwtio a hyfforddi’r gweithlu.

“Rydyn ni wedi amlinellu ein cynigion ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg i Bawb ac agenda ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn ein dogfen ‘Mwy na Miliwn – Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’.

“Dyma fyddai wir yn sicrhau bod pawb yn y wlad yn gallu dysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg mewn modd ystyrlon yn eu bywydau bob dydd.”

Llywodraeth Cymru yn nodi trefniadau pum mlynedd nesaf Cymraeg 2050

“Mae ein gweledigaeth ar gyfer ein hiaith yn un eangfrydig a chynhwysol ac rwyf am i bawb yng Nghymru deimlo bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom”