Mae Boris Johnson wedi goroesi gwrthdystiad Torïaidd tros doriadau i gymorth tramor.
Roedd ei ragflaenydd Theresa May wedi rhybuddio y byddai rhai o bobol dlotaf y byd yn marw o ganlyniad i’r toriad mewn gwariant.
Ac roedd Stephen Crabb, Aelod Seneddol Ceidwadol Preseli, hefyd yn un o’r rhai oedd yn gwrthwynebu’r Llywodraeth ar y mater.
Pleidleisiodd mwyafrif o 35 o Aelodau Seneddol o blaid y lefel is o gyllid cymorth a phrofion newydd y mae beirniaid wedi rhybuddio y gallai olygu na fydd gwariant fyth yn dychwelyd i’w darged o 0.7% o’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP).
“Mae’n rhaid benthyg pob punt rydyn ni’n ei gwario ar gymorth ac, mewn gwirionedd, nid ein harian ni ydyw, ond arian rydyn ni’n ei gymryd o genedlaethau’r dyfodol,” meddai Boris Johnson.
Ond dywedodd Theresa May fod y toriad yn golygu bod y Llywodraeth yn “troi ei chefn ar y tlotaf yn y byd”.
“Bydd llai o ferched yn cael eu haddysgu, bydd mwy o ferched a bechgyn yn dod yn gaethweision, bydd mwy o blant yn llwgu a bydd mwy o’r bobol dlotaf yn y byd yn marw,” meddai’r cyn-brif weinidog.
Mae’r ymrwymiad i 0.7% wedi’i rwymo yn y gyfraith a’i ailddatgan ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019, ond cafodd ei ddileu wrth i’r Llywodraeth geisio arbed arian mewn ymateb i’r caledi economaidd a gafodd ei achosi gan bandemig y coronafeirws.
Mae’r lefel o 0.5% yn golygu y bydd mwy na £10bn yn cael ei wario ar gymorth eleni, tua £4.4bn yn llai na phe bai’r ymrwymiad gwreiddiol wedi’i gadw.
Tric y Trysorlys?
Cafodd rhai o’r gwrthryfelwyr eu perswadio i bleidleisio gyda’r Llywodraeth yn dilyn cyfaddawd a gafodd ei gyflwyno gan y Canghellor Rishi Sunak, sy’n addo cynnal profion i adfer y lefel i 0.7%.
Ond o dan y profion, mae’n debyg na fydd gwariant cymorth tramor yn dychwelyd i 0.7% cyn yr etholiad cyffredinol nesaf, fydd yn cael ei gynnal yn 2024.
Mae’r rhagolygon presennol yn rhedeg hyd at 2025/26, tra nad oes disgwyl i ddyled net Prydain ddechrau gostwng tan 2024/25.
Yn ôl Andrew Mitchell, cyn-Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol San Steffan, dim ond unwaith yn yr ugain mlynedd diwethaf y cafodd yr amodau i adfer cyllid eu bodloni.
Dywedodd Mitchell, un o arweinwyr y gwrthdystiad yn erbyn y Llywodraeth, nad oedd y cynllun a gafodd ei gyflwyno gan y Trysorlys yn gyfaddawd o gwbl.
“Mae’n eithaf posibl na fydd yr amodau hyn fyth yn cael eu bodloni,” meddai.
Rhybuddiodd fod y Llywodraeth yn “niweidio ein henw da yn rhyngwladol” ac y byddai’r mesur yn cael “effaith enfawr ar ein rôl yn y byd”.
“Mae unrhyw un sy’n credu nad yw hyn yn effeithio ar enw da ein plaid yn byw mewn paradwys ffŵl,” meddai wedyn.
“Mae yno arogl annymunol y tu allan i ddrws ffrynt fy mhlaid.”
‘Lleihau dylanwad y Deyrnas Unedig’
Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, o’r farn fod y toriadau yn lleihau dylanwad y Deyrnas Unedig ledled y byd.
“Ni yw’r unig wlad G7 sy’n torri ein cyllideb cymorth,” meddai.
“Nid dyna’r weledigaeth Prydain fyd-eang rydyn ni eisiau ei gweld ar y meinciau hyn a dw i ddim yn meddwl mai dyma’r weledigaeth Prydain fyd-eang y mae llawer ar y meinciau gyferbyn eisiau ei gweld chwaith.”