Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn galw am sefydlu Bwrdd Rheilffyrdd Cymru newydd erbyn yr hydref.

Mae’n rhybuddio bod gan Gymru system Fictorianaidd sy’n ceisio cefnogi lefel o wasanaeth yn yr unfed ganrif ar hugain.

O ganlyniad, mae profiadau teithwyr yn cynnwys gwasanaethau araf a gorsafoedd diffygiol, yn ôl y Pwyllgor.

Dywed fod angen Bwrdd Rheilffyrdd Cymru newydd, sy’n cynnwys llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, Network Rail, gweithredwyr y rheilffyrdd sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru, a Thrafnidiaeth Cymru, er mwyn nodi’r gwelliannau a’r buddsoddiad sydd eu hangen.

Cymru ddim yn elwa o HS2

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi dod i’r casgliad na fydd Cymru yn elwa yn yr un ffordd â’r Alban a Gogledd Iwerddon o gyllid trwy fformiwla Barnett yn deillio o’r prosiect HS2, ac y dylai gael ei ailddosbarthu fel prosiect i Loegr yn unig oherwydd hynny.

Gan ddefnyddio fformiwla Barnett, dylid ailgyfrifo setliad cyllido Cymru i roi cyfran ychwanegol yn seiliedig ar y cyllid ar gyfer HS2 yn Lloegr, meddai.

Mae’n dweud y byddai hyn yn helpu i sicrhau bod teithwyr trên o Gymru yn derbyn yr un fantais o fuddsoddi yn HS2 â theithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

‘Trydaneiddio’r rheilffyrdd’

Gallai trydaneiddio’r rheilffyrdd chwarae rôl allweddol yn agenda datgarboneiddio Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl y Pwyllgor.

Dywed fod y penderfyniad i ohirio trydaneiddio prif lein Great Western o Gaerdydd i Abertawe yn annoeth.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael eu hannog i gyflwyno cynlluniau newydd cyn diwedd 2021 ar gyfer cysylltedd pellach rhwng Abertawe, Caerdydd a Bryste, a allai gynnwys cwblhau trydaneiddio ar y brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe.

‘Buddsoddi pellach’

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb AS: “Ceir achos dros fuddsoddi pellach yn seilwaith rheilffyrdd Cymru er mwyn gwella amseroedd siwrneiau i deithwyr, cryfhau cysylltedd â gweddill y Deyrnas Unedig a lleihau allyriadau carbon.

“Bydd cyrraedd ein targedau sero net yn gofyn am fuddsoddi sylweddol yn nhrydaneiddio’r rheilffyrdd,” meddai.

“Credwn y dylai hyn arwain at ailystyried y penderfyniad annoeth i ohirio trydaneiddio prif lein Great Western o Gaerdydd i Abertawe.

“Er bydd lleisiau bob amser yn galw am ddatganoli pellach o bwerau’n ymwneud â’r rheilffyrdd, mae’n glir mai beth sydd angen fwyaf ar deithwyr yw i’w dwy lywodraeth, ynghyd â gweithredwyr y rheilffyrdd, weithio gyda’i gilydd.

“Mae ein Pwyllgor wedi cynnig Bwrdd Rheilffyrdd Cymru newydd, fyddai’n dod â’r ddwy lywodraeth, Network Rail a gweithredwyr y rheilffyrdd ynghyd, gyda thasg yn cael ei gosod i’r Bwrdd, a ddylai gael ei sefydlu erbyn yr hydref, o gyflwyno pib linell ar y cyd ar gyfer prosiectau yn ymwneud â’r rheilffyrdd yng Nghymru.”