Mae ymchwil newydd sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 14) gan TUC Cymru yn canfod fod dros 60,000 o blant gweithwyr allweddol yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd.

Mae’r ffigwr, sy’n seiliedig ar ddiffiniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig o weithiwr allweddol, yn cynrychioli bron i un o bob pedwar o blant gweithwyr allweddol yng Nghymru (23.4%).

Mae hyn yn uwch na’r ffigwr ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan (20.6%) ac mae 40% yn uwch na’r rhanbarth sy’n perfformio orau, sef Dwyrain Lloegr.

Polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwaethygu tlodi gweithwyr allweddol

Mae polisïau cyfredol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn debygol o gynyddu cyfraddau tlodi plant, yn ôl TUC Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau i dorri Credyd Cynhwysol i deuluoedd incwm isel o £20 yr wythnos ym mis Hydref.

Ac yn ôl TUC Cymru, un o’r prif resymau dros dlodi teuluoedd gweithwyr allweddol yw cyflog isel ac oriau ansicr – amodau sy’n gyffredin mewn galwedigaethau fel gwaith gofal a manwerthu.

Mae costau tai uchel yn lleihau cyllidebau teuluoedd gweithwyr allweddol ymhellach ar gyfer hanfodion fel bwydydd a biliau cyfleustodau.

A dydy cymorth trwy Gredyd Cynhwysol ddim yn ddigon i warantu bod teuluoedd yn osgoi tlodi.

Mae corff yr undeb yn rhybuddio y bydd y polisïau hyn yn rhoi’r dewrder ar adferiad economaidd y genedl drwy leihau gwariant cartrefi.

Bydd hyn yn atal gweithgarwch busnes ac yn effeithio ar dwf cyflogau gweithwyr eraill ar draws yr economi.

Galw ar Lywodraeth Cymru i wella cymorth ariannol

Mae TUC Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella eu rhaglenni cymorth eu hunain i bobol sydd â thrafferthion ariannol.

Er nad yw lles wedi’i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn gweinyddu taliadau cymorth brys drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol.

Ond mae meini prawf cymhwysedd proffil isel a llym y gronfa yn golygu nad yw llawer o bobol a fyddai’n elwa ohono wedi gallu cael gafael ar gymorth.

‘Safon byw’

“Mae pob gweithiwr allweddol yn haeddu safon byw weddus i’w deulu, ond yn rhy aml nid yw eu gwaith caled yn talu fel y dylai,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Ac maen nhw’n ei chael hi’n anodd ymdopi â chostau sylfaenol bywyd teuluol.

“Nid yw hyn yn ymwneud â gwneud y peth iawn i weithwyr allweddol yn unig.

“Pe baem yn rhoi mwy o arian ym mhocedi teuluoedd sy’n gweithio, byddai eu gwariant yn helpu ein busnesau a’n strydoedd mawr i wella.”