Roedd cyfradd chwyddiant yn y Deyrnas Unedig wedi codi’n sylweddol ym mis Mehefin yn sgil cynnydd mewn prisiau bwyd a phetrol.

Roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi o 2.1% ym mis Mai i 2.5% ym mis Mehefin, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Targed Banc Lloegr yw 2%.

Unwaith eto, roedd y ffigwr swyddogol y tu hwnt i ddisgwyliadau, gyda rhagolygon y byddai’n codi i 2.2% ym mis Mehefin.

Yn ôl Jonathan Athow o’r ONS roedd chwyddiant “wedi cynyddu am y pedwerydd mis yn olynol i’w lefel uchaf ers bron i dair blynedd.

“Roedd y cynnydd yn eang – er enghraifft, roedd cynnydd mewn prisiau bwyd a cheir ail-law, lle mae adroddiadau bod cynnydd yn y galw.”

Ond roedd cynnydd mewn prisiau petrol hefyd wedi ychwanegu at y cynnydd mewn chwyddiant, meddai, y ogystal â phrisiau bwyd ac esgidiau.