Mae’r cwmni sy’n berchen ar siopau John Lewis a Waitrose wedi cadarnhau eu bod nhw’n bwriadu cael gwared ar 1,000 o swyddi yn eu siopau.
Yn ôl y John Lewis Partnership (JLP), bydd y newidiadau yn digwydd fel rhan o broses i symleiddio’r ffordd mae’r siopau’n cael eu rheoli.
Daw hyn wedi iddyn nhw gael gwared ar nifer o swyddi’n ddiweddar, a chau wyth o siopau John Lewis yn gynharach eleni.
Mae’r cwmni’n rhedeg 331 o siopau Waitrose a 34 o siopau John Lewis ar draws y Deyrnas Unedig.
Bydd y cwmni’n cefnogi gweithwyr sy’n dymuno parhau i weithio yn y busnes drwy ddod o hyd i swyddi newydd iddyn nhw, meddai JLP.
Byddan nhw hefyd yn trio gwneud yn siŵr fod cyn lleied o ddiswyddiadau gorfodol â phosib, drwy gynnig diswyddiadau gwirfoddol a chyflog diswyddo.
“Rydyn ni wedi cyhoeddi ein bwriad i symleiddio strwythurau rheoli yn ein siopau Waitrose a John Lewis i’n partneriaid, bydd hyn yn caniatáu i ni ail-fuddsoddi yn yr hyn sydd bwysicaf i’n cwsmeriaid,” meddai llefarydd ar ran y John Lewis Partnership.