“Rydym yn wynebu llywodraeth sy’n reddfol elyniaethus i ddatganoli” medd Mark Drakeford wrth roi tystiolaeth i bwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi.
Fe ddywedodd fod yr undeb dan y pwysau mwyaf y mae ef wedi gweld erioed yn ei fywyd gwleidyddol.
“Gyda Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig, rydym yn wynebu am y tro cyntaf yn ein hanes lywodraeth sy’n elyniaethus tuag at ddatganoli,” meddai Mr Drakeford.
“Mae yna Undebiaeth gyhyrol, sy’n ymosodol. Dyma lywodraeth sy’n mynd o amgylch pethau yn wahanol iawn i bob llywodraeth rydym wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol.”
Mynnodd ei fod am weld diwygio mawr i’r undeb fel y mae ar hyn o bryd gan fynnu trafodaeth rhwng holl wledydd y Deyrnas Unedig.
“Egni gwleidyddol go-iawn”
“Mae Llywodraeth Cymru yn un o’r creaduriaid sy’n prysur ddiflannu fel llywodraeth sydd wirioneddol yn credu yn nyfodol y Deyrnas Gyfunol,” meddai Mr Drakeford gebron y pwyllgor.
“Rydym eisoes wedi cyhoeddi dogfen i ddiwygio’r Undeb er mwyn sicrhau bod yr undeb yn goroesi ac yn ffynnu gyda Chymru yn rhan o hynny.
“Rydym yn cysgu wrth cerdded tuag at ddiwedd yr Undeb. Mae gwirioneddol angen trafodaeth ar frys.
“Byddai angen i’r drafodaeth honno gael egni gwleidyddol go-iawn yn rhan o hynny, ac mae’n ymddangos fod y drafodaeth hon yn gynyddol fwy angenrheidiol”
Ers y flwyddyn newydd mae llywodraethau datganoledig pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cwrdd yn wythnosol gyda Ysgrifennydd y Cabinet, Michael Gove, i drafod datblygiadu’r gwledydd yng nghyd-destun Covid.
Dywedodd fod y cyfarfodydd hyn yn fuddiol.
Serch hynny, fe ddywedodd bod Llywodraeth y DU yn ymyrryd yn ariannol mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, a hynny mewn modd aneffeithiol.
“Tanseilio datganoli’
“Bob dydd ni’n gweld ffyrdd newydd o sut mae’r llywodraeth yma [Llywodraeth y DU] yn creu tensiynau newydd rhyngon ni,” meddai.
“Dro ar ôl tro, mae gyda ni rymoedd sydd wedi eu datganoli i Gymru ac mae Llywodraeth y DU yn dod mewn, ac yn gwario arian ei hunain yn y meysydd datganoledig hynny gan danseilio datganoli a chan wario’r arian hynny yn llai effeithiol”
“Mae hynny’n gwneud fy ngwaith i’n anoddach, o ran darbwyllo [pobl am yr] achos dros yr Undeb.”
Fodd bynnag, fe ddywedodd ei fod yn hapus i weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau’n gyfrifol am faterion ynghylch amddiffyn a pholisi tramor a nawdd cymdeithasol.
‘Annibynniaeth?’
Wrth siarad am annibynniaeth i Gymru, dywedodd nad oedd yn dymuno gweld hynny ond na fyddai’n gwrthod ewyllys y bobl.
“Dwi ddim meddwl y byddai unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig yn gallu cael ei gorfodi i fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Os yw unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig am adael yr undeb, wel dyna mae angen canfod ffordd i alluogi hynny i ddiwgydd”.
“Dydych chi methu dal gwlad yn erbyn ei hewyllys. Allwch chi ddim dychmygu’r peth.”
“Os byddai pobl yng Nghymru yn dymuno gadael y Deyrnas Unedig, fe dylen nhw gael yr hawl i wneud hynny.”
“Cenedlaetholdeb cynhennus a gelyniaethus”
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi ymateb i sylwadau’r Prif Weindiog drwy gyhuddo Mark Drakeford o “droi tuag at genedlaetholdeb cynhennus a gelyniaethus”.
Yn ôl Darren Millar, AoS Gorllewin Clwyd, ni ddylai’r Prif Weinidog fod yn canolbwyntio ar “newid cyfansoddiadol”.
Dywedodd: “Mae Prif Weinidog Llafur yn troi tuag at genedlaetholdeb cynhennus a gelyniaethus.
“Mae pobl Cymru eisiau iddo ganolbwyntio ar ein hadferiad o’r pandemig, nid newid cyfansoddiadol.
“Dylai Llafur roi blaenoriaeth i ddiogelu swyddi, mynd i’r afael â rhestrau aros annerbyniol o hir, a gwella ein system addysg yng Nghymru – nid creu ofn am ddyfodol y Deyrnas Unedig.”