Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 73.8% o oedolion Cymru wedi derbyn dau ddos o frechlyn Covid-19.

Mae Cymru bellach wedi rhoi cyfanswm 1,861,700 o ail ddosys.

Lloegr sydd nesaf ar 66.5% o’i hoedolion (29,429,018 ail ddos), yna’r Alban ar 65.7% (2,914,904 ail ddos) a Gogledd Iwerddon ar 65.4% (950,145 ail ddos).

Mae cyfanswm o 35,155,767 o ail ddosau bellach wedi’u darparu yn y Deyrnas Unedig gyfan ers i’r broses frechu ddechrau ym mis Rhagfyr y llynedd.

Mae hyn yn cyfateb i 66.7% o’r holl bobl 18 oed a throsodd.

Dosys cyntaf

Cymru sy’n arwain ar ddosys cyntaf hefyd, gyda 90.3% o oedolion wedi cael pigiad cyntaf.

Yr Alban sydd nesaf ar 89.0%, yna Lloegr (87.3%), a Gogledd Iwerddon (81.7%).

Mae’r ffigurau diweddaraf gan bedair asiantaeth iechyd y Deyrnas Unedig yn dangos, felly, bod tua 87.4% o oedolion y Deyrnas Unedig gyfan bellach wedi cael dos cyntaf o frechlyn – er bod cyfradd y brechiadau wedi arafu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Effeithiolrwydd

O ran effeithiolrwydd, awgryma ddadansoddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr fod un dos o frechlyn Rhydychen/AstraZeneca neu Pfizer/BioNTech yn lleihau’r risg o glefyd symptomatig gydag amrywiolyn Delta tua 35%, ac yn lleihau achosion ysbyty 80%.

Mae ail ddos yn gwella’r effeithiolrwydd i oddeutu 79% yn erbyn clefyd symptomatig, a 96% yn erbyn gorfod mynd i’r ysbyty.