Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod elfen ariannu’r cynnig i agor ysgol gynradd Saesneg yng Nghwm Tawe wedi’i ohirio ar hyn o bryd.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot i drafod y mater fel blaenoriaeth, ond bydd yr ochr ariannol yn cael ei gohirio hyd nes i’r awdurdod lleol gyflwyno asesiad boddhaol o’r effaith ar y Gymraeg.

Daw hyn yn dilyn gwrthwynebiad a phryderon ynghylch yr effaith fyddai’r ysgol yn ei chael ar yr iaith yn yr ardal.

Er hynny, mae’r awdurdod lleol yn bwrw ymlaen â’r cynnig statudol, a heddiw (14 Gorffennaf) yw’r cyfle olaf i drigolion lleol gael dweud eu dweud ar y cynlluniau.

Mae’r cynlluniau’n cynnig cau tair ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn Alltwen, Ynysmeudwy, a Godre’r Graig, cyn adeiladu ysgol newydd ar gyfer 700 o ddisgyblion ym Mhontardawe.

Allan o’r 234 o ymatebion a gafodd y Cabinet drwy’r ymgynghoriad, dim ond 21 ohonyn nhw oedd o blaid y cynlluniau.

Ar ben hynny, roedd 413 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cau’r tair ysgol, ac adeiladu un fawr.

“Blaenoriaeth”

“Mae elfen ariannu’r cynnig wedi’i gohirio ar hyn o bryd, hyd nes i’r awdurdod lleol gyflwyno asesiad boddhaol o’r effaith ar y Gymraeg i Lywodraeth Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â’r awdurdod lleol i drafod hyn fel blaenoriaeth.

“Mae’r awdurdod lleol yn bwrw ymlaen â’r cynnig statudol.

“Ni allwn wneud sylwadau ar yr agwedd hon, gan ei bod yn bosibl y bydd yn ofynnol i Weinidogion wneud penderfyniad ar hyn yn ddiweddarach.”